gan
Dylan Lewis
Lluniau gan Lucy Jones
Cynhaliwyd cyngerdd mawreddog yng Nghapel Aberduar, Llanybydder nos Sadwrn Ebrill 20fed, gyda Chôr Meibion Llanymddyfri, Aled Thomas Llanwnnen a Helen Pugh Llandeilo.
Llywydd y Noson oedd Miss Sarah Edwards, Arglwydd Raglaw ei fawrhydi yn Nyfed.
Codwyd £1,200 ar y noson at Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig.
Dymuna Ieuan Davies, Cadeirydd Pwyllgor Canser Llanybydder a Llanbed ddiolch i bawb a gymerodd ran yn rhad ac am ddim.