Cynghorwyr yn gwrthod argymhellion Swyddogion Cynllunio

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion wedi croesawu cais i adeiladu archfarchnad yn Llanbed.

gan Ifan Meredith
64A2FCCC-01F9-4F0D-A0BE-D90906CE72FA

Delwedd oddi ar Ddatganiad Dylunio a Mynediad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Ymatebodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion yn gadarnhaol i gais gan archfarchnad Aldi i adeiladu archfarchnad ar gaeau chwarae Prifysgol Llanbed. Daw hyn yn dilyn y cais yn cael ei argymell i’w wrthod gan swyddogion.

Roedd y pwyllgor yn gefnogol o sefydlu archfarchnad Aldi yn Llanbed ac yn gefnogol o gynlluniau’r Brifysgol yma i adfywio’r Pafiliwn Chwaraeon.

Yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd am 10yb Fore Mercher y 10fed o Orffennaf, cafodd y Cynghorydd lleol dros Ward Llanbed, Ann Bowen Morgan gyfle i ddatgan ei barn o blaid y cynlluniau.

Gan fod y cynghorwyr wedi gwrthod argymhellion swyddogion i wrthod y cais, mi fydd y cais nawr yn cael ei ohirio ac yn mynd i’r is-bwyllgor i drafod.

Gall hyn olygu mai dyma ddechrau’r diwedd i fater sydd wedi bod yn datblygu yn yr ardal ers dwy flynedd.

Nid yw Clonc360 wedi derbyn ymateb eto gan Gyngor Tref Llanbed ac nid oedd y Cynghorydd, Ann Bowen Morgan yn barod i wneud sylw.