Cynghorwyr Plaid Cymru ardal Llanbed yn cyflwyno siec i Fanc Bwyd Llanbed

Rhodd o £800 i Fanc Bwyd Llanbed gan Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Ceredigion.

gan Ifan Meredith
WhatsApp-Image-2024

Cynghorwyr Eryl Evans ac Ann Bowen Morgan yn cyflwyno siec i Nans a Sandra o fanc bwyd Llanbed.

Cyflwynodd Cynghorwyr wardiau Llangybi a Llanbed, Eryl Evans ac Ann Bowen Morgan siec o £800 yn ddiweddar i Fanc Bwyd Llanbed ar ran Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Ceredigion.

“helpu’r rhai sydd mewn angen yng Ngheredigion”

Dywed Arweinydd y blaid ar Gyngor Sir Ceredigion, Bryan Davies fod gwasanaethau pwysig fel banciau bwyd a mannau cynnes yn y sir wedi gweld twf yn y galw. Wnaeth y cynghorydd roi bai ar doriadau gwariant cyhoeddus “hanesyddol” o San Steffan.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n gwirfoddoli i gynnal y banciau bwyd ar draws y Sir.”

Mae banciau bwyd lleol yn croesawu cyfraniadau ariannol neu fwydydd ac yn croesawu unrhyw un sydd yn barod i wirfoddoli. Mae Banciau Bwyd y Sir yn agored ar gyfer unrhyw un sydd yn teimlo’r pwysau ariannol.

I ganfod eich Banc Bwyd agosaf, dilynwch y linc yma:

https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/cymorth-costau-byw/cymorth-gyda-bwyd/banciau-bwyd-ceredigion/

Addasiad o erthygl ar BroAber360

Dweud eich dweud