Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan – CARU LLANBED AR WAITH

06.03.2024: 4.00-6.00pm yn y Dalis, Gwesty’r Llew Du, Llanbed

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_8795

Poster Caru Llanbed ar Waith

IMG_8795-1

Poster Caru Llanbed ar Waith

Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn cynnal digwyddiad arbennig, CARU LLANBED AR WAITH, prynhawn Mercher 6ed Mawrth rhwng 4.00 a 6.00 o’r gloch yn y Dalis, Gwesty’r Llew Du, Stryd Fawr, Llanbed.

Mae’r Cyngor Tref yn edrych ymlaen at gyfarfod â phawb sy’n byw ac yn gweithio yn Llanbed sy’n galw i’n gweld prynhawn Mercher rhwng 4.00 a 6.00 o’r gloch. Bydd yn gyfle i ni rannu gyda chi y gwybodaeth ddiweddaraf am waith y Cyngor Tref ac is-bwyllgor Caru Llanbed yn ymwneud â Chynllun Lle Llanbed. Cewch wybod am yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, y gwaith sydd ar y gweill a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol gan y Cyngor Tref. Bydd yn gyfle i chithau rannu eich syniadau gyda’r Cyngor Tref a gyda’r amrywiaeth o asiantaethau fydd yn bresennol yn y digwyddiad. Cewch drafod eich cynlluniau ac edrychwn ymlaen at ddod i’ch adnabod yn well a sut allwn gydweithio gyda chi.

Dewch yn llu i CARU LLANBED AR WAITH prynhawn Mercher 6ed Mawrth rhwng 4.00 a 6.00 o’r gloch yn y Dalis, Gwesty’r Llew Du, Llanbedr Pont Steffan. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch os gwelwch yn dda trwy e-bost gyda Chlerc y Cyngor Tref, Meryl Thomas – clerc@lampeter-tc.org.uk

Y Maer, Cynghorydd Rhys Bebb Jones ar rhan Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan