Dafydd Iwan yn dod i Gribyn!

‘YSGOL CRIBYN O BWYS I BAWB’ – Dafydd Iwan

gan Elliw Dafydd

Mae Dafydd Iwan yn dod i Ysgol Cribyn. Dyna’r newyddion cyffrous wrth i’r ymgyrch gymunedol i gyd-brynu’r ysgol gyrraedd yr wythnos ola. ‘Ma’ enw mawr yn hala neges o gefnogaeth ar yr adeg hon yn beth digon arferol – cyffredin, bron’ medd Alan Henson, cadeirydd pwyllgor llywio Cribyn. ‘Ond dim hala neges fydd Dafydd. Fydd e ’ma gyda ni nos Sadwrn yn y parti mawr i ddathlu penllanw’r ymgyrch!’

Ers pump wythnos ma’ bobol Cribyn wedi bod yn annog unigolion, cymdeithasau a chwmniau Dyffryn Aeron a thu hwnt i gyd-gyfrannu tuag at sicrhau na fydd yr ysgol yn cael ei gwerthu ar y farchnad agored. Y nod yw troi’r adeilad yn gartre fforddiadwy i deulu lleol ac yn ganolfan addysg a chymdeithas hyblyg, cysurus a byrlymus. ‘Yn ganolfan bwysig i’r Gymraeg a’n ffordd o fyw’ ychwanegodd Alan.

Wrth gadarnhau ei ymddangosiad nos Sadwrn dywedodd Dafydd Iwan: ‘Rhwng creu cartre i Gymry ifainc a photensial y ganolfan newydd i godi hyder a gwneud gwahaniaeth dwy’n gweld Ysgol Cribyn yn ddatblygiad pwysig i Gymreictod yr ardal gyfan’ meddai. ‘Ble bynnag ’da ni’n byw, os ’da ni’n credu bod dyfodol ein cymdogaethau Cymraeg yn bwysig yna ma’ dyfodol Ysgol Cribyn o bwys i ni un ac oll’ meddai.

Yn ogystal a bod yn gyffrous, mae Alan Henson yn ddiolchgar iawn i Dafydd am ei gefnogaeth. ‘Criw bach y’n ni yng Nghribyn – lleiafrif falle – ond criw sydd ddim yn fodlon dilyn yr hen drefn o adael i bobol ariannog o bant feddiannu’n hasedau gore. Dyna pam, nos Sadwrn, nid ‘Y’n ni yma o hyd’ y’n ni am i Dafydd ganu ond ‘Y’n ni’n mynd i fod yma o hyd’. Drosodd a drosodd.

Cynhelir Parti Cam Ola menter Ysgol Cribyn nos Sadwrn, 4 Mai – ddiwrnod cyn i’r ymgyrch brynu cyfranddaliadau gau, nos Sul 5 Mai. Yn ogystal ag ymddangosiad Dafydd Iwan, mi fydd Siani Sionc yno i ddiddanu’r plant. I borthi’r dathliad mi fydd fan pizzaTân y Ddraig, bar tafarn gymunedol y ‘Vale’ a chyfle a chymorth i brynu’r cyfranddaliadau holl bwysig hynny!

<<<>>>

I brynu cyfranddaliadau ar lein ewch i www.ysgolcribyn.cymru/cy/ neu ebostwch ysgolcribyn@gmail.com

Ffilm Cywydd Ysgol Cribyn: Cywydd Ianto x (youtube.com) 
Ffilm Ysgol Cribyn Ar Werth: https://www.youtube.com/watch?v=NVTHhBJ35HU&t=1s

GWYBODAETH BELLACH: Elliw Dafydd 07975 616882 ysgolcribyn@gmail.com / Euros Lewis 07813 173155wesglei01@gmail.com