Martha ar daith i India

Cyhoeddi Martha Thomas yn un o griw’r Urdd fydd ar daith i India!

gan Ifan Meredith
Screenshot-2024-11-17-at-12.15.33-1URDD GOBAITH CYMRU

Mae’r Urdd wedi cyhoeddi’r criw o 9 merch fydd yn teithio i India gyda’r mudiad i wirfoddoli gyda Her Future Coalition ym mis Chwefror 2025.

Cyhoeddwyd Martha Thomas o Lanbed yn un o’r rheiny sy’n ddigon ffodus i fynd ar y daith wrth chwarae rôl bwysig yng ngwaith dyngarol yr elusen sy’n gweithio gyda merchd ifanc a phlant bregus yn Kolkata.

“Ar ôl dod dros y sioc roeddwn i’n llawn cyffro a balchder”

Mae Martha bellach yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn astudio Addysg Gynradd ac yn edrych ’mlaen at yrfa yn y maes addysg.

Wrth siarad â Clonc360, dywedodd Martha ei bod y edych ymlaen at “gael y cyfle i brofi India – y bobl, ieithoedd, bwyd, diwylliant a ffordd o fyw’r wlad anhygoel yma a hynny dan faner yr Urdd”.

“Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y cyfle i gael paratoi gweithgareddau i ferched ifanc Kolcata ac rwy’n mawr obeithio y byddai’n gallu dod â rhywfaint o ddaioni iddynt” meddai wrth Clonc360.

Wrth sôn am yr heriau, credai Martha y bydd hi’n anodd iddi ddygymod â’r tlodi a straeon y merched fydd wedi cael eu cam-drin.

“angen i mi godi arian ar gyfer cefnogi’r merched byddaf yn cwrdd allan yn India”

Cyn y daith ym mis Chwefror, mae gofyn i Martha godi arian tuag at yr elusen drwy ‘Just Giving’. Mae hefyd yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau amrywiol i godi arian yn fuan.

“hynod falch o’r bartneriaeth hon rhwng yr Urdd a Her Future Coalition”

Mewn datganiad, dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru,

“Nid yn unig ydan ni’n mynd i India i rannu gwybodaeth a phrofiad, ond mi ydan ni hefyd yn mynd yno i ddysgu a chael ein hysbrydoli gan eu gwydnwch, agwedd gadarnhaol a chreadigrwydd”.

“Lansiwyd ein prosiect #FelMerch er mwyn grymuso merched Cymru, ac rydym yn llwyr gefnogol o waith Her Future Coalition i sicrhau newid parhaol yn India” meddai.

Dywedodd Sarah Symons, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Her Future Coalition.

“Rydyn ni’n llawn cyffro am y cyfle ’ma i ddysgu oddi wrth un o sefydliadau ieuenctid hynaf, mwyaf, a mwyaf dylanwadol y byd, i rannu diwylliant ac arferion gorau, ac i groesawu gwirfoddolwyr benywaidd ifanc a fydd yn siŵr o ddifyrru ac ysbrydoli’n merched yn Kolkata”.

Dweud eich dweud