Am ddiwrnod ym Mart Llanybydder

Adroddiad y Mart am Ddydd Sadwrn y 10fed o Awst

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Am ddiwrnod ym mart Llanybydder!!

Roedd bron i 500 o wartheg yma a’r safon yn anhygoel o’r dechrau i’r diwedd, a phawb â gwên ar eu hwynebau.

Y pris uchaf am eidon oedd £2,250 sef record newydd yn Llanybydder o eiddo Davies, Llwynhenwas oedd â 31 o wartheg yma gyda phris cyfartalog o £1,940. Y pris uchaf am aner oedd £1,990 o eiddo Bellamy, Hendy. Y pris uchaf am fuwch oedd £1,560 o eiddo Lewis, Gwarcoed Einon. Y pris uchaf am fuwch a llo oedd £2,080 o eiddo Davies Bros, Waunllannau Isaf.

Prisiau cyfartalog ardderchog:

Eidonau – £1,520

Aneirod – £1,350

Bydd yr arwerthiant nesaf ar y 14eg o Fedi.

Hoffai Evans Bros ddiolch i’r holl brynwyr a gwerthwyr ffyddlon yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau diwrnod llwyddiannus yn y farchnad. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.