Mae Sonia Gibbon o Lanwnnen a’i merch Eloise wedi buddsoddi llawer dros y blynyddoedd diwethaf drwy adfer hen orsaf Derry Ormond i’w chyflwr gwreiddiol. Cyflogwyd crefftwyr lleol i’w cynorthwyo.
Y bwriad yw cynnig yr adeilad bach dwy ystafell yn lety gwyliau gyda thema arbennig. Lleolir yr hen orsaf dafliad carreg o bentref Betws Bledrws, mewn llecyn tawel ac heddychlon.
Ceir lle byw modern a chlyd yn yr hafan hanesyddol hon sy’n cyfuno ei chymeriad swynol gyda nodweddion gwreiddiol. Gellir ymlacio o flaen y lle tân wrth i’r fflamau daflu golau ysgafn ar draws yr ystafell. Mae’r ystafell fyw cynllun agored, gyda’i simnai o frics, cegin traddodiadol a’i ffenestri cyfnod, yn priodi swyn vintage gydag agweddau cyfoes.
Mae’r ystafell wely fawr yn ddihangfa dawel, yn cynnwys lloriau pren gwreiddiol a manylion wedi’u hadfer, sy’n adleisio gorffennol dirdynnol yr orsaf. Mae’r ystafell gawod, wedi’i haddurno â ffitiadau cyfnod, yn ychwanegu cyffyrddiad cain i’r lle.
Y tu allan, ceir arlliwiau rheilffordd brown a hufen gwreiddiol ar yr eiddo fel amnaid hiraethus i hanes. Gellir gweld yr ardal lle unwaith y bu’r cledrau yn cludo trenau prysur a’r gwaith cerrig ar y platfform wedi ei adnewyddu’n gelfydd.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Evans,
“Gwych gweld cwblhau gwaith adfer hen orsaf reilffordd Derry Ormond Betws Bledrws.”
Esboniodd y Cynghorydd Eryl Evans,
“Roedd gorsaf reilffordd Derry Ormond yn gwasanaethu lleoliad gwledig Betws Bledrws ger Llangybi, yn ogystal â phlasty ac ystâd Derry Ormond (a ddymchwelwyd yn 1953) ar Reilffordd Aberystwyth Caerfyrddin. Fe’i hagorwyd ym 1867 fel Betws, ac fe’i hailenwyd ym mis Gorffennaf 1874 er anrhydedd i’r stad leol, a oedd yn eiddo i’r teulu dylanwadol Jones ac yna Inglis-Jones yn ddiweddarach.”
Rhaid llongyfarch y ddwy am eu hymdrechion. Dyma atyniad hyfryd i dwristiaid a phawb sydd â diddordeb mewn hanes y rheilffordd a hynny ar drothwy ein drws ni yma ger Llanbed.
Gellir llogi hen orsaf Derry Ormond fel lle gwyliau ar wefan HolidayCottages.
Dyma gyflwr yr hen adeilad cyn i Sonia ac Eloise ddechrau ar y gwaith adnewyddu.