Dicter ymhlith masnachwyr Llanbed am benderfyniad Swyddogion Cynllunio

Argymhelliad i wrthod caniatad ar gyfer pentref bwyd gydag archfarchnad Aldi

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
64A2FCCC-01F9-4F0D-A0BE-D90906CE72FA

Delwedd oddi ar Ddatganiad Dylunio a Mynediad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae rhai o fasnachwyr Llanbed yn flin wedi iddynt glywed am yr argymhelliad i wrthod cynlluniau i greu pentref bwyd gydag archfarchnad Aldi yn Llanbed.

Mae lleoliad y cynllun ar ran o gaeau chwarae Pontfaen Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbed.  Gwnaed y penderfyniad gan gynllunwyr Cyngor Sir Ceredigion oherwydd ofnau am yr effaith posib ar fusnesau canol y dref a’r ardal gadwraeth.

Mae Rhys Price o gwmni Gwilym Price ei fab a’i ferched yn rhwystredig am ddiffyg cefnogaeth y cyngor sir i ganol y dref.  Dywedodd Rhys,

“Maen nhw’n amlwg wedi colli cysylltiad â’r ardal leol! Mam a man iddyn nhw ddweud bod Llambed hefyd yn cau i fusnes.  Ydyn nhw’n rhagweld hyn drwy ‘symud’ y llyfrgell?”

Mae Rhys yn poeni hefyd am y bygythiad i symud y llyfrgell o ganol y dref ac am ddiffyg ymdrech i ddelio â siopau gwag.  Ychwanegodd Rhys,

“Byddai’n well ganddyn nhw weld adeiladau yn y dref yn wag yn lle tynnu pobl mewn. Maen nhw’n caffael adeiladau na allan nhw fforddio dim ond er mwyn eu gadael yn wag.”

Mae’r cynlluniau, a ddenodd gefnogaeth a gwrthwynebiadau sylweddol yn ystod y cyfnod ymgynghori, wedi cael eu hargymell i’w gwrthod gan gynllunwyr y cyngor sir mewn adroddiad i’w roi gerbron aelodau Pwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion ddydd Mercher, 10 Gorffennaf.

Mae preswylwyr hyd yn oed wedi dechrau deiseb ar lein neithiwr er mwyn caniatáu’r cynllun a chyflwyno archfarchnad sy’n gwerthu bwyd fforddiadwy yn lleol.