Dinistrio planhigion hardd tref Llanbed

Pobl yn achosi difrod i flodau a choed yng nghanol Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
201D087F-0B0F-4579-B216
0A8C6C78-AEDC-4717-BEAD

Yn ystod y penwythnos gwelwyd bod blodau a phlanhigion ar siopau ac wrth eiddo ar brif strydoedd Llanbed wedi eu difrodi.

Cyhoeddodd Laura Hunter ei bod wedi gweld rhywun yn bwrw un o’r basgedi crog tu fas ei salon yn y Stryd Fawr yn ystod y dydd ddoe.

Dywedodd Laura,

“Unrhyw un allan yn y dref, peidiwch â bod yn hollol dwp a malu ein blodau drwy’r dref.  Dyw esgus bocsio basged grog ddim yn gwneud i chi edrych yn cŵl.”

Bore ma wedyn, cyhoeddodd Arthur Jones y difrodwyd coeden fechan o flaen eiddo yn Stryd y Coleg.

Dywedodd Arthur,

“Unrhyw un yn gwybod pwy wnaeth hyn ar Stryd y Coleg neithiwr neu rhywun eisiau cyfaddef?”

Ar un llaw mae’n braf gweld perchnogion busnes a phreswylwyr yn gwneud cymaint o ymdrech er mwyn harddu’r dref, ond ar y llaw arall, cythruddir pobl o weld fandaliaeth diangen fel hyn.  Gofynnir y cwestiwn am barch unigolion tuag at eiddo pobl eraill.

Gwir bod digwyddiad mawr yn y Cae Sioe neithiwr.  Mor hyfryd bod rhywbeth cyffrous yn digwydd yn lleol.  Cafwyd llawer o hwyl yn cymryd rhan a gwylio’r “It’s a Knockout” ac roedd gan y Clwb Rygbi far yno.

Dyma un o brif ddigwyddiadau’r flwyddyn yn yr ardal lle mae pobl leol o bod oedran yn dod ynghyd yn gymdeithasol.  Mae peth difrod fel hyn yn bris sy’n rhaid ei dalu felly wrth geisio cynnal digwyddiadau hwylus.