Bethel Parc-y-rhos yn derbyn organ mewn noson o Ddiolch a Chân

Côr Corisma yn helpu i godi arian tuag at Diabetes UK Cymru

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos
99e8257e-b906-4592-982f

Llun gan Nia Wyn Davies.

Cynhaliwyd noson hyfryd o Ddiolch a Chân yng Nghapel Bethel Parc-y-rhos nos Sul yr 8fed Medi.  Pwrpas y noson oedd derbyn organ newydd i’r capel yn rhoddedig gan Lyn a Fanw Davies, Aberaeron er cof am Dafydd Lewis, Cwmann.

Cafwyd lluniaeth ysgafn i ddechrau o ddiod a thameidiau blasus ac i agor y gyngerdd croesawyd pawb yn gynnes iawn gan Cyril Davies.  Cyhoeddodd Cyril yr emyn cyntaf a bu canu gorfoleddus gyda Carys Lewis yn cyfeilio ar yr organ newydd.

Y côr gwadd ar y noson oedd Côr Corisma dan arweiniad Carys Lewis gyda Lois Williams yn cyfeilio.  Cafwyd tair cân yn yr hanner cyntaf a thair yn yr ail hanner gyda’r gynulleidfa yn mwynhau gwledd o ddatganiadau swynol.  Cyflwynwyd eitemau’r côr gan Rhian Evans a hyfryd oedd cyfeiliant Helen Williams ar y ffidl i un o’r caneuon.

Talodd Anne Thorne y diolchiadau yn ystod yr hanner amser gan gyfeirio at bawb a fu wrth y gwaith paratoi ar gyfer y noson.  Cyfeiriodd yn annwyl iawn hefyd at golli Dafydd Lewis mor ifanc dros flwyddyn yn ôl.  Roedd Dafydd yn aelod addfwyn a hoffus o Eglwys Bethel a’r gymuned ehangach.

Cyflwynodd Eric Williams flodau i Fanw Davies am ei charedigrwydd.  Bu’r organ ym meddiant Fanw am flynyddoedd.  Dyma organ at bwrpas adeilad gyhoeddus, a bu cyfnod pan oedd Fanw yn diddanu cynulleidfaoedd yn ei milltir sgwâr a chodi canu mewn nosweithiau anffurfiol.  Erbyn hyn, mae’r organ yn cael lle parchus ym Methel a fydd yn gyfeiliant i oedfaon am flynyddoedd i ddod.

Alun Jones a gyhoeddodd yr emyn olaf sef Cân yr Adfywiad Newydd ac ar ddiwedd y noson, ef a draddododd y fendith.  Wrth ymadael bu’r gynulleidfa’n hael iawn gan adael cyfraniadau ariannol yn y bwcedi er mwyn codi arian tuag at Diabetes UK Cymru.  Ar y cyfrif cyntaf, codwyd £855 tuag at yr achos.

Bydd y gronfa ar agor am bythefnos tan ein oedfa nesaf ar yr 22ain Medi.  Gallwch wylio’r noson yn y recordiad uchod a rannwyd yn fyw ar dudalen facebook Bethel Parc-y-rhos.

Dweud eich dweud