Cafwyd sawl sylwad ar facebook heddiw yn nodi mai deunydd insiwleiddio tai yw’r peli hyn, ond o ble maen nhw wedi dod?
Mae peli bach llwyd wedi eu chwythu i bob twll a chornel strydoedd Llanbed gan adael preswylwyr yn dyfalu beth ydyn nhw ac o le ddaethon nhw.
Gwelwyd y peli ar hyd Heol y Bryn yn bennaf, yn ogystal â’r Stryd Fawr, Sgwâr Harford, Stryd y Coleg a Stryd y Bont.
Maen nhw’n edrych fel peli bach ploystyrene a ddefnyddir mewn bagiau ffâ, ond o liw llwyd. Maen nhw’n ysgafn fel peli bagiau ffâ hefyd oherwydd fe’u chwythir i bob twll a chornel.
Mae sawl un o breswylwyr Llanbed yn achwyn eu bod wedi eu chwythu mewn i dai hefyd wrth i’r drysau fod ar agor ddoe.
Ond mae yna bryder o lygredd hefyd. Beth ydyn nhw, polystyrene neu blastig? A beth yw’r canlyniadau tymor hir os ydyn nhw’n mynd i’r pridd a llygru gerddi a bywyd gwyllt? Ydyn nhw’n fioddiraddadwy? Mae’n nhw wedi eu chwythu i’r draeniau hefyd gyda’r perygl o’u blocio neu hyd yn oed lygru afonydd a’r môr yn y pen draw.