Disgyblion TGAU yn derbyn eu canlyniadau

Llongyfarch disgyblion am ganlyniadau TGAU.

gan Ifan Meredith

Llwyddodd 98% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau TGAU yng Ngheredigion dderbyn graddau A* i G, wrth i 24% ennill graddau A* – A. O’i gymharu â llynedd, mae’r canlyniadau A*-A i lawr 0.8% ond graddau A*-C i fyny o 68.6% i 71% eleni yng Ngheredigion tra bod cwymp o 2% ar draws Cymru yn y graddau A*-C.

Mae ffigurau cymharol rhwng rhai cymedrol Ceredigion a Chymru i’w gweld isod.

Gradd A* – A

Ceredigion: 24%

Cymru: 19%

Gradd A* – C

Ceredigion: 71%

Cymru: 62%

Gradd A* – G

Ceredigion: 98%

Cymru: 97%

Mae canrannau Ceredigion ym mhob categori graddau yn uwch na chanrannau Cymru sy’n dangos y safon uchel o addysg sydd yn cael ei chynnig yng Ngheredigion.

“Gall disgyblion Ceredigion ymfalchïo yn eu canlyniadau eto eleni”

Medd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am y Gwasanaeth Ysgolion:

“Mae ysgolion wedi, ac yn parhau i, wynebu amryw o heriau, felly mae cynnal safonau yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae angen llongyfarch llywodraethwyr, arweinwyr ysgol, athrawon a chynorthwywyr ar eu gwaith caled, eu dygnwch a’u harbenigedd.”

Aiff ymlaen i ddymuno pob lwc i “bawb gyda’u dewisiadau am y dyfodol, pa bynnag lwybr byddwch yn ei ddilyn.”

Ychwanegodd Elen James, Prif Swyddog Addysg:

“Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion ar eu hymdrechion cydwybodol unwaith eto eleni. Braf iawn yw gweld canlyniadau mor gadarnhaol, sy’n ffrwyth llafur cydweithio effeithiol rhwng pawb sy’n rhan o daith addysgol pob unigolyn. Mae gwaith diflino’r athrawon a staff, cefnogaeth y rhieni/gwarcheidwaid a dyfalbarhad ein pobl ifanc i’w gydnabod a’i ddathlu.”