Wythnos o gystadlu ym Meifod

Y cyfan o ddyddiau Mercher-Gwener yn fyw o Eisteddfod yr Urdd, Meifod 2024!

gan Ifan Meredith
333_ffN_Urdd_02Llun_23-CopiURDD GOBAITH CYMRU

Tridiau o gystadlu yn fyw ar wefan Clonc360!

Diolch i Nia am yr ohebiaeth ddechrau’r wythnos, ymlaen nawr at ddiwedd wythnos o gystadlu ar faes yr Eisteddfod ym Meifod!

Holl lwyddiannau ardal Clonc360 yn fyw ar y blog byw hwn.

12:12

Ela Mablen newydd fod ar y teledu. 

12:09

Canlyniad cynta’r dydd:

Alaw Werin Unigol bl. 7-9:

1. Ela Mablen Griffiths Jones, Ysgol Gyfun Aberaeron

2. Miriam Williams, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

3. Rhyddid Trystan, Ysgol Dyffryn Conwy

09:53

Bore dydd Iau a’r neges yw i wisgo’n briodol ar gyfer y tywydd. 

21:11

125335b6-fdae-471c-91d0
IMG_1256

Llongyfarchiadau i Elin Lewis o Ysgol Bro Pedr am ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth Graffeg Cyfrifiadurol Bl.7, 8 a 9.

15:34

IMG_7909
IMG_7910

Elin Lloyd, Ysgol Bro Pedr wrthi yn cystadlu yn y Pafiliwn Gwyn ar hyn o bryd â’r canlyniad i’w ddisgwyl am 5.

13:46

IMG_7882

Iestyn a Heledd

IMG_7882

Iestyn a Heledd

IMG_7885

Logo newydd y Siarter Iaith

IMG_7883

Criw Cymraeg Ysgol Pontrobert

Am 12:30, pabell Llywodraeth Cymru oedd y lle i fod ar gyfer dathliad deng mlynedd ers lawnsio’r Siarter Iaith.

“Carreg filltir bwysig iawn”

Cyflwynodd Iestyn a Heledd gyflwyniad i’r Siarter Iaith a sut aeth o gynllun yng Ngwynedd a Môn ac yna “tyfu ac esblygu i fod yn gynllun ar draws Gymru”.

“Lwcus o ethos gref o Gymreictod o fewn yr ysgol”

Yn rhan o’r digwyddiad cafwyd cyflwyniad gan ysgolion Pontrobert a Chegidfa. Soniodd y ddwy ysgol am eu balchder wrth weithredu’r Siarter Iaith o fewn yr ysgol wrth ddathlu diwrnodau Cymreig arbennig a sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed ar draws eu hysgolion.

Yn rhan o fideo i ail-lawnsio’r Siarter, roedd darnau am yr hyn mae Pwyllgor Cymreictod Bro Pedr wedi bod yn ei wneud i ennill gwobr Aur ac Arian y Siarter Iaith.

Cyhoeddwyd logo newydd y Siarter hefyd ynghyd â ffrindiau newydd i Seren a Sbarc.

13:11

d36cb942-1431-449b-ae75
50ac872d-b4c4-4ec4-8292
e00d0a75-2dc7-462a-a3ee

Ysgol Carreg Hirfaen yn paratoi ar gyfer y Ddawns Hip Hop yn gynt bore ma. 

12:57

Ela ac Olivia, Ysgol Aberaeron yn y 3 uchaf yn y Ddeuawd Cerdd Dant Bl 9 ac Iau. 

11:38

IMG_1961

Llongyfarchiadau i Alma ar ddod yn 2il. 

11:37

image-1

Alma Spooner, Ysgol Bro Pedr

Canlyniad nesaf:

Unawd Llinynnol bl. 7-9

1. Milissa Zhao, Caerdydd

2. Alma Spooner, Ysgol Bro Pedr

3. Mabli  Lloyd, Ysgol Gymraeg Ystalyfera