Tridiau o gystadlu yn fyw ar wefan Clonc360!
Diolch i Nia am yr ohebiaeth ddechrau’r wythnos, ymlaen nawr at ddiwedd wythnos o gystadlu ar faes yr Eisteddfod ym Meifod!
Holl lwyddiannau ardal Clonc360 yn fyw ar y blog byw hwn.
CANLYNIAD:
Unawd Bechgyn bl. 7-9:
1. Cian Glyn, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
2. Trystan Bryn Evans, Cylch Dyffryn Aman
3. Lleu Williams, Ysgol David Hughes
CANLYNIAD:
Unawd Merched bl. 7-9:
1. Ela Mablen Griffiths Jones, Ysgol Gyfun Aberaeron
2. Nel Williams, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
3. Gwenno Beech, Ysgol Dyffryn Ogwen
Ela Mablen Griffiths Jones yn llefaru ‘Y Filltir Sgwâr’ yng nghystadleuaeth y Llefaru Unigol bl. 7-9.
Ela Mablen yn cystadlu yn yr Unawd Merched.
Cystadleuaeth nesaf yw’r Perfformiad Theatrig o Sgript i flynyddoedd 7-9.
Ysgol Bro Pedr newydd gystadlu.
Ela Mablen newydd fod ar y teledu.
Canlyniad cynta’r dydd:
Alaw Werin Unigol bl. 7-9:
1. Ela Mablen Griffiths Jones, Ysgol Gyfun Aberaeron
2. Miriam Williams, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
3. Rhyddid Trystan, Ysgol Dyffryn Conwy
Bore dydd Iau a’r neges yw i wisgo’n briodol ar gyfer y tywydd.
Llongyfarchiadau i Elin Lewis o Ysgol Bro Pedr am ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth Graffeg Cyfrifiadurol Bl.7, 8 a 9.
Elin Lloyd, Ysgol Bro Pedr wrthi yn cystadlu yn y Pafiliwn Gwyn ar hyn o bryd â’r canlyniad i’w ddisgwyl am 5.