Diwrnod o chwaraeon yn y brifddinas

Ysgol Bro Pedr yn chwarae mewn rowndiau terfynol hoci a rygbi heddiw.

gan Ifan Meredith
IMG_7037

Dilynwch hynt a helynt timau hoci a rygbi Ysgol Bro Pedr yn fyw ar y blog byw hwn.

Tri digwyddiad chwaraeon byddwn yn eu dilyn yn ystod y dydd heddiw:

10:00 Rowndiau terfynol hoci bechgyn blwyddyn 7 – Gerddi Soffia

13:00 Rownd derfynol rygbi dan 18 i ysgolion – Ysgol Bro Pedr yn erbyn Ysgol Bro Teifi – Stadiwm y Principality

15:30 Rowndiau terfynol hoci bechgyn hŷn – Gerddi Soffia

17:03

Bro Pedr yn ail yng nghystadleuaeth hoci bechgyn dan 18 oed. 

16:52

Y corn wedi canu a’r sgôr terfynol oedd:

Ysgol Bro Pedr 0-9 Ysgol Rydal Penrhos

Ysgol Bro Pedr yn parhau i frwydro ond Ysgol Rydal Penrhos yn dominyddu. 

16:46

Bro Pedr yn ceisio cadw Ysgol Rydal Penrhos ond Rydal Penrhos yn sgorio dwy waith eto i fyn ar y blaen 9-0.  

16:35

Gôl gyntaf yr ail hanner i Ysgol Rydal Penrhos. 
Ysgol Bro Pedr 0-7 Ysgol Rydal Penrhos

16:16

IMG_7137

Sgôr ar yr hanner:

Ysgol Bro Pedr 0-6 Ysgol Rydal Penrhos

16:09

Sgôr ddiweddaraf:

Ysgol Bro Pedr 0-6 Ysgol Rydal Penrhos

15:59

Ysgol Bro Pedr yn methu ac Ysgol Rydal Penrhos yn sgorio eto. 
Ysgol Bro Pedr 0-5 Ysgol Rydal Penrhos

15:53

Dau gôl arall i roi Ysgol Rydal Penrhos ar y blaen 4-0. 

15:47

Arbediad gwch gan Rory Ghali ond Ysgol Rydal Penrhos yn sgorio i’w gwneud hi’n 2-0.

15:44

Ysgol Rydal Penrhos yn agos i sgorio eto ond Bro Pedr yn llwyddo i’w cadw allan tro yma.