Diwrnod o chwaraeon yn y brifddinas

Ysgol Bro Pedr yn chwarae mewn rowndiau terfynol hoci a rygbi heddiw.

gan Ifan Meredith
IMG_7037

Dilynwch hynt a helynt timau hoci a rygbi Ysgol Bro Pedr yn fyw ar y blog byw hwn.

Tri digwyddiad chwaraeon byddwn yn eu dilyn yn ystod y dydd heddiw:

10:00 Rowndiau terfynol hoci bechgyn blwyddyn 7 – Gerddi Soffia

13:00 Rownd derfynol rygbi dan 18 i ysgolion – Ysgol Bro Pedr yn erbyn Ysgol Bro Teifi – Stadiwm y Principality

15:30 Rowndiau terfynol hoci bechgyn hŷn – Gerddi Soffia

15:47

Arbediad gwch gan Rory Ghali ond Ysgol Rydal Penrhos yn sgorio i’w gwneud hi’n 2-0.

15:44

Ysgol Rydal Penrhos yn agos i sgorio eto ond Bro Pedr yn llwyddo i’w cadw allan tro yma. 

15:40

Sgôr yr hoci hyd yma:

Ysgol Bro Pedr 0-1 Ysgol Rydal Penrhos

15:19

Diwedd y chwarae am y dydd yw gêm derfynol hoci bechgyn hŷn yn erbyn Ysgol Rydal Penrhos. 

14:44

Cyfweliad gyda chapten Tîm hŷn Ysgol Bro Pedr, Steffan Evans. 

14:41

Ysgol Bro Teifi yn dominyddu yn erbyn Ysgol Bro Pedr. 

Sgôr terfynol:

Ysgol Bro Pedr 7-29 Ysgol Bro Teifi

14:20

Ysgol Bro Teifi yn fuddugol ar ddiwedd y gêm o 29-7.

Tomos Edwards o Fro Teifi sydd wedi ei enwi fel Seren y Gêm.

14:11

Bro Pedr yn rhwygo’r bêl ac ennill tafliad y llinell cyn gollwng y bêl ac ildo sgrym. 

14:08

Bro Pedr yn ceisio cicio allan o broblemau ar eu llinell gais. 

14:00

Eilyddio:

Sion Evans 🔴 Llyr Davies 🟩

Efan Thomas 🔴 Konrad Syguda 🟩