Dorian Morgan yn gyd-olygydd llyfr newydd Pobol y Cwm

Hanner canrif o atgofion opera sebon hynaf y BBC

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_2772

Mae llyfr newydd mas gan y Lolfa i nodi pen-blwydd Pobol y Cwm yn 50 oed.  Un o’r golygyddion yw Dorian Morgan, Llanbed.  Bu’n gweithio i’r BBC am flynyddoedd.

Dyma gasgliad amrywiol o hanesion ac atgofion pobl sydd wedi bod ynghlwm â’r gyfres dros y blynyddoedd.  Beth sy’n gwneud y llyfr hwn yn ddiddorol yw nad actorion yn unig sy’n rhannu atgofion.  Ceir hanesion gan awduron a chyfarwyddwyr a gan Dorian yn ogystal.

Dywedodd Dorian,

“Pan ofynnwyd i fi ddechrau’r flwyddyn a fyddai diddordeb gyda fi gydweithio gyda William Gwyn i olygu cyfrol i ddathlu pen-blwydd Pobol y Cwm yn 50 oed, fe neidiais at y cyfle.

Dyma gyfres sydd wedi bod yn rhan mor annatod o fywydau cynifer ohonom ni. Ac er nad oeddwn wedi fy ngeni adeg sefydlu’r gyfres, fe ddes i’n wyliwr ffyddlon o ganol yr wythdegau ymlaen.

Tyfodd y diddordeb yn y gyfres ymhellach ar ôl treulio dros 15 mlynedd yn yr un adeilad â’r cast a’r criw. Er nad oeddwn yn gweithio yn yr adran ddrama yng Nghanolfan Ddarlledu’r BBC yn Llandaf, roedd stryd fawr Cwmderi wastad yno – yno i’n atgoffa o’r cymeriadau a’r golygfeydd eiconig.

Ac mae’r hanesion a’r atgofion o fewn cloriau’r gyfrol hon yn brawf o allu Pobol y Cwm i gynnal ein diddordeb ar hyd y degawdau.”

Un o’r actorion nôl ym 1974 oedd Gillian Elisa, Llanbed.  Roedd ei chymeriad Sabrina yn chwedlonol, ac yn llyfr Pobol y Cwm ysgrifenna am ba mor bwysig oedd y gyfres yn ei gyrfa ac yn ei bywyd ifanc.

“Mae Pobol y Cwm yn golygu shwt gymaint i mi, a dw i’n ddiolchgar iawn am gael bod yn rhan o’r cast gwreiddiol ’nôl yn 1974.  Rhoddodd Pobol y Cwm stamp sefydlog a gwreiddiau cadarn i mi fel actor.”

Llyfr difyr dros ben am gyfres sydd yn rhan mor greiddiol o fywydau pob un ohonon ni.  Mae’n llawn lluniau, a braf gweld yr hen gymeriadau yn ogystal â’r cymeriadau presennol.

Llyfr i’w drysori.  £14.99, ac yn anrheg Nadolig i rywun o bosib!

Dweud eich dweud