Dros 700 o wartheg ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn

Adroddiad y Mart – Dydd Sadwrn 14eg o Fedi

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Roedd dros 700 o wartheg yn y mart ddydd Sadwrn gyda 100% wedi gwerthu a nifer o wynebau hapus.

Y pris uchaf am eidon oedd £2,200 o eiddo Davies. Y pris uchaf am aner oedd £1,930 o eiddo James, Gilfach. Y pris uchaf am fuwch oedd £1,970 o eiddo James, Llain. Y pris uchaf am fuwch a llo oedd £1,580 o eiddo Roberts, Cilwr Uchaf.

Prisiau cyfartalog ardderchog:

Eidonau – £1,350

Aneirod – £1,250

Bydd dwy arwerthiant ym mis Hydref sef ar y 12fed a 26ain.

Hoffai Evans Bros ddiolch i’r holl brynwyr a gwerthwyr ffyddlon yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau diwrnod llwyddiannus yn y farchnad. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.

Dweud eich dweud