Newyddion da o lawenydd mawr oedd clywed bod y Cross Hands yn Llanybydder yn ail agor ar ôl bod ar gau am gyfnod. Yn ystod yr wythdegau, roedd wyth tafarn yn Llanybydder ond erbyn hyn, mae’r Highmead, y Vale of Teifi, y Llew Du a’r Gwrdy wedi eu trosi’n dai.
Nicola a Nadine yw rheolwyr newydd y Cross Hands a dywedodd Nicola:
‘Os hoffech chi gwrdd â ffrindiau am beint a chlonc, wel dyma’r lle i ddod. Ond os nad yw hynny’n apelio, dewch i gael paned a chacen a chyfle i roi’r byd yn ei le yn ein hystafell de ‘Cwtsh Clyd.’ Bydd yna ddewis eang o gacennau ar eich cyfer ac amrywiaeth o goffi a the ar gael yn ogystal. Mae yna ystafell amlbwrpas gyda ni a gallwn ddarparu ar gyfer priodasau, partïon a digwyddiadau cymunedol. O’r 18fed ymlaen, byddwn yn cynnig cinio Dydd Sul hefyd. Mae chwe ystafell gyda ni ar gyfer gwesteion ac ry’n ni’n gwneud brecwast yn ogystal.’
Felly, dewch i agoriad swyddogol y gwesty, nos Sadwrn yma, Awst 10fed am 7 o’r gloch. Chewch chi mo’ch siomi!