Dydd Llun yr Eisteddfod

Dilynwch yr hanes drwy gydol y dydd

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Caffi Hathren yn y Brif Fynedfa. Cofiwch cael paned a chacen.

19:22

Dwy ddeuawd yn cystadlu yn y gystadleuaeth deuawd dan 19 oed.  

18:58

Yr ail i gystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Offerynnol yn eithrio’r piano yw Alwena Mair Owen yn chwarae’r delyn. 

17:31

IMG_4902

Karen Owen gyda’r beirniad Mererid Hopwood. 

Karen gyda thair o ferched y ddawns – Beca, Marged ac Elliw. 

17:28

IMG_4901

Seremoni Cadeirio gyda Dawnswyr Ysgol Dyffryn Cledlyn yn dawnsio. 

16:41

Bardd y Gadair 2024: na, dydych chi ddim yn gweld dwbwl, a dy’n ni ddim yn gwneud camgymeriad technegol trwy ail gyhoeddi lluniau anghywir … Karen Owen yw enillydd y Gadair. 

Hi enillodd y Fedal Ryddiaith yn gynt y prynhawn ’ma hefyd. 

Llongyfarchiadau mawr Karen. 

16:02

Anwen Butten yn areithio yn sôn am ei atgofion o gystadlu yn yr Eisteddfod yn blentyn. 

15:57

Cadeirydd Emlyn Davies yn cyflwyno Anwen Butten, Llywydd

15:45

Sara Lewis, Mydroilyn yw enillydd Rose Bowl i’r cystadleuydd mwyaf addawol dan 12 yn yr Adran Gerdd. 

15:43

Trystan Bryn yn cloi’r cystadleuaeth Llefaru 12-16 oed. 

Unawd Bechgyn fydd nesaf ac yna Araith y Llywydd. Anwen Butten ac yna’r Seremoni Cadeirio. 

15:08

IMG_4856

Llongyfarchiadau Karen Owen 👏👏👏