Caffi Hathren yn y Brif Fynedfa. Cofiwch cael paned a chacen.
Y brif gystadleuaeth lefaru dan 21 oed sydd ymlaen ar lwyfan Eisteddfod Llanbed nawr gyda thri yn cystadlu.
Dau ganlyniad sef yr Unawd Bechgyn (Chwith) a Merched (Dde) rhwng 16 a 21 mlwydd oedd.
Unawd Bechgyn 16-21 oed:
1. Osian Jenkins
2. HarrinEvans
Unawd Merched 16-21 oed:
1. Alwena Mair Owen
2. Swyn Tomos
Dwy ddeuawd yn cystadlu yn y gystadleuaeth deuawd dan 19 oed.
Yr ail i gystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Offerynnol yn eithrio’r piano yw Alwena Mair Owen yn chwarae’r delyn.
Karen Owen gyda’r beirniad Mererid Hopwood.
Karen gyda thair o ferched y ddawns – Beca, Marged ac Elliw.
Seremoni Cadeirio gyda Dawnswyr Ysgol Dyffryn Cledlyn yn dawnsio.
Bardd y Gadair 2024: na, dydych chi ddim yn gweld dwbwl, a dy’n ni ddim yn gwneud camgymeriad technegol trwy ail gyhoeddi lluniau anghywir … Karen Owen yw enillydd y Gadair.
Hi enillodd y Fedal Ryddiaith yn gynt y prynhawn ’ma hefyd.
Llongyfarchiadau mawr Karen.
Anwen Butten yn areithio yn sôn am ei atgofion o gystadlu yn yr Eisteddfod yn blentyn.
Cadeirydd Emlyn Davies yn cyflwyno Anwen Butten, Llywydd
Sara Lewis, Mydroilyn yw enillydd Rose Bowl i’r cystadleuydd mwyaf addawol dan 12 yn yr Adran Gerdd.