Y llwyfan wedi ei osod yn barod ar gyfer diwrnod o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed!
Nôl i neuadd Ysgol Bro Pedr eleni a mynediad drwy’r brif dderbynfa!
Nel a Mari yr unig gystadleuwyr yn y ddeuawd dan 12.
Ifan yn canu cân i anrhydeddu’r ddau.
Ysgrifennu darn o ryddiaith ar y testun Perthyn oedd y dasg yng nghystadleuaeth y Tlws Ieuenctid.
Roedd Melyn Melys yn llwyr haeddu ennill y gystadleuaeth yn ôl y beirniad.
Lowri Elen Bebb o Gaernarfon yw’r enillydd.
Steffan Nicolas o Aberystwyth yn ennill y Gadair.
Aneirin Karadog yn traddodu beirniadaeth cystadleuaeth y Gadair o dan 25 oed.
Dau yn y gystadleuaeth a Ffanfferwr yn llwyr haeddu’r gadair yn ôl y beirniad.
Seremoniau’r Ieuenctid yng ngofal Gwawr Taylor. Aneirin Karadog ym traddodi’r feiriniadaeth.
Sara yn cystadlu yn y Canu Emyn. 8 yn cystadlu.
Ifan Meredith yn ennill y Wobr Ieuenctid yn y Celf a Chrefft.
Rhian Evans, Cadeirydd Celf a Chrefft yn cyflwyno gwobrau Celf a Chrefft.
Gwledd yn yr arddangosfa Celf a Chrefft gyda’r seremoni ar fîn dechrau!