Dydd Sadwrn : ‘Steddfod Llanbed

Y diweddaraf o lwyfan Eisteddfod Llanbed 2024!

gan Ifan Meredith

Y llwyfan wedi ei osod yn barod ar gyfer diwrnod o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed!

Nôl i neuadd Ysgol Bro Pedr eleni a mynediad drwy’r brif dderbynfa!

19:51

Disgyblion Ysgol Dyffryn Cledlyn yn dawnsio yn Seremoni’r Coroni.

19:51

Cyflwynir y ddawns eleni gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Cledlyn. 

19:47

Ffion Gwen Williams yn cipio’r Goron. 

19:44

IMG_2247

Enillydd y Goron yw Ffion Gwen Williams.

Yng nghystadleuaeth y Goron y dasg oedd ysgrifennu casgliad o gerddi rhydd ar y thema ‘Grisiau’.  Y beirniad oedd Aneirin Karadog a’r cerddi a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniad oedd cerddi Blodeuwedd.

19:40

Araith y llywydd Mrs Hedydd Thomas.

19:23

Mae Seremoni’r Coroni dan ofal Dorian Jones wedi cychwyn. Y Prifardd Aneirin Karadog yw’r beirniaid- tybed a fydd yna deilyngdod?

19:22

Ifan Meredith yn canu Gwirioni ar y Geiriau yn y Seremoni Ieuenctid.

19:16

Dylan Lewis wrthi yn diddanu’r gynulleidfa wrth aros am y canlyniad olaf cyn seremonimr Coroni.

Dyma ei stori:

Mae Dylan wedi bod yn y gampfa i ddysgu sut i wneud splits. Yna, holodd yr hyfforddwr pa mor hyblyg oedd e ac atebodd:

Dwi ffili neud nos Fawrth achos bod ymarfer côr!

19:10

Canlyniad olaf cyn y Coroni:

Sgen ti dalent? dan 16 oed:

1. Ela Mablen Griffiths-Jones

19:08

Cadarnhad mai Parti Unsain Adran Llanbed sy’n fuddygol yng nghystadleuaeth y Parti Unsain dan 16oed.