Dydd Sadwrn : ‘Steddfod Llanbed

Y diweddaraf o lwyfan Eisteddfod Llanbed 2024!

gan Ifan Meredith

Y llwyfan wedi ei osod yn barod ar gyfer diwrnod o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed!

Nôl i neuadd Ysgol Bro Pedr eleni a mynediad drwy’r brif dderbynfa!

19:02

Hedydd Thomas, Llywydd y dydd yn annerch y gynulleidfa yn yr ysgol lle bu hi’n dysgu yn ddiwrddar cyn ymddeol yn 2022.

Yn ei haraith soniodd am ei phrofiad o Eisteddfota a bod y testun ‘yn ei gwaed’. Soniai hefyd am Eisteddfod yng Nghribyn ar noswyl y Nadolig.

Soniodd hefyd am Eisteddfod yn ‘blatfform i fagu hyder’ ac yn le i ‘ddysgu perfformio a sut i fod yn gartrefol o flaen cynulleidfa’.

Dywedodd hefyd fod Eisteddfod Ysgol yn bwysig iawn iddi. Teifi oedd ei thŷ hi pan yn ddisgybl, yna Creuddyn pan yn athrawes a’i meibion yn nhŷ Dulas.

‘boed iddi barhau am flynyddoedd i ddod i feithrin y talent’

Cyn cloi ei haraith, soniodd am Eisteddfod Llanbed a’r atgofion melys cafodd yn cystadlu ac yn rhan o’r ddawns flodau.

18:57

IMG_4652

Hedydd Thomas, Llywydd y dydd. 

18:49

Emlyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn cyflwyno Llywydd y dydd, Hedydd Thomas. 

18:40

IMG_1151

Yr unig Barti Unsain dan 16 oed ar y llwyfan yw Adran Llanbed yn canu Cymru’r Plant.   

18:34

Ela Mablen yw’r unig gystadleuydd yn y Sgen di dalent dan 16. 

18:17

Ar y llwyfan nawr:

Llefaru oed Uwchradd gyda phedair yn cystadlu ac Ela Mablen Griffiths-Jones yn agor y gystadleuaeth. 

17:58

Unawd Uwchradd arno nawr. 5 yn cystadlu. 

17:42

Nel a Mari yr unig gystadleuwyr yn y ddeuawd dan 12. 

17:22

IMG_4621

Ifan yn canu cân i anrhydeddu’r ddau. 

17:19

Ysgrifennu darn o ryddiaith ar y testun Perthyn oedd y dasg yng nghystadleuaeth y Tlws Ieuenctid.

Roedd Melyn Melys yn llwyr haeddu ennill y gystadleuaeth yn ôl y beirniad.

Lowri Elen Bebb o Gaernarfon yw’r enillydd.