Y llwyfan wedi ei osod yn barod ar gyfer diwrnod o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed!
Nôl i neuadd Ysgol Bro Pedr eleni a mynediad drwy’r brif dderbynfa!
Owain Davies yn cystadlu yn y Cyflwyniad Digri.
Bu 3 yn cystadlu yng nhystadleuaeth Dweud eich Dweud.
Owain, Elin ac Ifan.
Côr Llefaru Sarn Helen bach
Pam Lai yn agor yr Ensemble
Disgyblion Ysgol Dyffryn Cledlyn yn dawnsio yn Seremoni’r Coroni.
Cyflwynir y ddawns eleni gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Cledlyn.
Ffion Gwen Williams yn cipio’r Goron.
Enillydd y Goron yw Ffion Gwen Williams.
Yng nghystadleuaeth y Goron y dasg oedd ysgrifennu casgliad o gerddi rhydd ar y thema ‘Grisiau’. Y beirniad oedd Aneirin Karadog a’r cerddi a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniad oedd cerddi Blodeuwedd.
Araith y llywydd Mrs Hedydd Thomas.
Mae Seremoni’r Coroni dan ofal Dorian Jones wedi cychwyn. Y Prifardd Aneirin Karadog yw’r beirniaid- tybed a fydd yna deilyngdod?