Dydd Sadwrn : ‘Steddfod Llanbed

Y diweddaraf o lwyfan Eisteddfod Llanbed 2024!

gan Ifan Meredith

Y llwyfan wedi ei osod yn barod ar gyfer diwrnod o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed!

Nôl i neuadd Ysgol Bro Pedr eleni a mynediad drwy’r brif dderbynfa!

21:33

Braf gweld neuadd yr ysgol yn orlawn ac yn mwynhau’r corau. 

21:32

Côr Pam Lai yw’r olaf i gystadlu. 

21:30

Côr Bytholwyrdd yn cystadlu.

21:11

Côr Corisma yn agor cystadleuaeth y Côr. 

21:11

Cychwyn ar y corau: Corisma yn agor y gystadleuaeth i gorau dros 16 mewn nifer. 

20:59

Owain Davies yn cystadlu yn y Cyflwyniad Digri. 

20:54

IMG_4683

Bu 3 yn cystadlu yng nhystadleuaeth Dweud eich Dweud. 
Owain, Elin ac Ifan. 

20:30

Côr Llefaru Sarn Helen bach

20:30

Pam Lai yn agor yr Ensemble

19:51

Disgyblion Ysgol Dyffryn Cledlyn yn dawnsio yn Seremoni’r Coroni.