Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Iau, y 12fed o Ragfyr, mae’r Aelod Seneddol a Llywydd y Senedd, Elin Jones wedi datgan ei phryderon am ddyfodol cynlluniau Tir Glas ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Llanbed.
“wedi cael eu gor-addo”
Mae Elin Jones wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yng nghynlluniau’r brifysgol. Dywedodd wrth Radio Cymru ei bod yn “amlwg fod y cynlluniau a’r addweidion yna wedi cael eu hadeiladu ar dywod i ryw raddau yn hytrach nag ar graig”.
“doedd yna ddim seiliau digon cadarn i gynllun o’r fath”
“Mae e’n drienu achos roedd yna gyffro a roedd na egin cyfle yna i weld rhywbeth o wir werth i Llanbed” meddai ar raglen Radio Cymru, Dros Frecwast.
Lansiwyd y cynllun ym mis Ebrill 2022 a oedd i fod cyd-fynd â chynlluniau Aldi i agor archfarchnad ar gaeau chwarae’r brifysgol. Roedd y cynllun yn cael ei nodi fel un “gyffrous” oedd yn darparu nifer o weledigaethau gwahanol ar gyfer y campws a’r dref.
Mae’r cynllun eisoes wedi derbyn £583,000 o gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“mae e yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr yn Llanbed”
Bu Ann Bowen Morgan, Cynghorydd ward Llanbed ar Gyngor Sir Ceredigion, yn siarad ar y rhaglen hefyd gan ddatgan siom yr ardal am y cynllun gan ddatgan ei bod “wedi deall ers ychydig fisoedd bod yna broblemau ynglŷn â’r cynllun a bod e’n cael ei atal dros dro”.
“Dyma oedd yr addewid a roedd ’na lawer o waith wedi ei wneud wrth gynllunio a lawnsio y peth ’ma. O ran y cyrsiau, byddai wedi bod yn hynod o addas ar gyfer ardal amaethyddol fel hon” meddai wrth Radio Cymru.
Daw’r ansicrwydd am ddyfodol Tir Glas yn dilyn pryderon am ddyfodol astudiaethau Dyniaethau ar gampws Llanbed ynghyd ag ymddiswyddiadau o fewn y brifysgol.
Dywedodd PCYDDS fod y cynllun “wedi ei atal dros dro” tra bod adolygiad yn cael ei gynnal.