Y Drindod Dewi Sant yn lansio Canolfan Tir Glas yn Llambed

Gweledigaeth gyffrous newydd ar gyfer dyfodol y campws yn Llambed

gan Lowri Thomas

Mewn noson arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd y Celfyddydau ar gampws Llambed ar Fawrth 17eg 2022, gwnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lansio prosiect Canolfan Tir Glas.

Mae Canolfan Tir Glas yn fenter uchelgeisiol a chydweithredol a fydd yn darparu ffordd ymlaen ac ysgogiad newydd ar gyfer Llambed a’r cyffiniau.  Ei nod yw creu ecosystem a fydd yn cefnogi seilwaith gwledig drwy ddod â phobl a chymunedau at ei gilydd i greu ar y cyd ddyfodol newydd i’r ardal.  Bydd y Brifysgol a phartneriaid yn datblygu canolfannau rhagoriaeth i ddarparu amrywiaeth o raglenni’n gysylltiedig â sgiliau gwledig, cynaliadwyedd a chydnerthedd.

Wrth nodi’i daucanmlwyddiant, mae’r Drindod Dewi Sant wedi lansio gweledigaeth gyffrous newydd ar gyfer dyfodol ei champws yn Llambed sy’n adeiladu ar ei enw byd-enwog fel canolfan ar gyfer astudio’r Dyniaethau a deialog amlddiwylliannol a rhyng-ffydd. Y nod yw creu cynnig hirdymor ar gyfer y campws a’r dref, wedi’i seilio ar egwyddorion cydnerthedd a chynaliadwyedd, sy’n cynnig cyfle i hyrwyddo cryfderau a chyd-destun gwledig yr ardal.

Ystyr y term ‘Tir glas’ yw tirwedd werdd a ffrwythlon ac mae’n deillio o gyfres o straeon byrion gan D.J. Williams sy’n portreadu gwytnwch a boneddigeiddrwydd trigolion cymunedau amaethyddol Llambed a gogledd Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Brifysgol yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr, Cyngor Tref Llambed, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn ogystal â Llywodraethau Cymru a’r DG ynghylch datblygu Canolfan Tir Glas. Mae’r datblygiad eisoes wedi derbyn cyllid gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth DG a chan Gynnal y Cardi, Rhaglen Datblygu Gwledig (LEADER) Ceredigion, a gyllidir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.”

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost campws Llambed: “Fel sefydliad craidd yn y dref, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod ganddi rôl ganolog i’w chwarae yn y gwaith o adfywio Llambed yn y cyfnod wedi Covid. Mae’r Brifysgol yn ei hystyried ei hun yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol a fydd yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Yn ogystal â darparu ffordd ymlaen ar gyfer tref Llambed, y weledigaeth i Ganolfan Tir Glas yw darparu cyfle i’r Brifysgol ddatblygu portffolio newydd o raglenni, gan weithio’n gydweithredol ag ystod o bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i alluogi Llambed i ddod yn ganolfan rhagoriaeth ym meysydd cynaliadwyedd a chydnerthedd.”

“Mae’r pandemig wedi newid agweddau pobl tuag at yr amgylchedd, iechyd a llesiant, a chan fod Llywodraeth Cymru yn pwysleisio’n fwyfwy brif egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae sefydlu Canolfan Tir Glas yn amserol ac yn ddatblygiad i’w groesawu’n lleol ac yn genedlaethol.”

Mae chwe phrif ran ategol Canolfan Tir Glas fel a ganlyn:

  1. Pentref Bwyd Pontfaen, a fydd yn galluogi’r Drindod Dewi Sant a’r manwerthwr bwyd disgownt Aldi i arddangos a dathlu cynnyrch bwyd lleol.
  2. Hwb Bwyd Cymunedol i ddarparu cyfleuster cymunedol i ddatblygu sgiliau’n seiliedig ar gynhyrchu bwyd yn lleol.
  3. Academi Bwyd Cyfoes Cymru i sefydlu hwb canolog ar gyfer addysg a hyfforddiant bwyd, gan weithio gyda phartneriaid ar draws canolbarth a de-orllewin Cymru.
  4. Hwb Mentergarwch Gwledig i hyrwyddo busnesau bach sy’n gweithio mewn cyd-destun gwledig, yn benodol yn y diwydiannau bwyd a lletygarwch.
  5. Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Hwb Ymaddasu Llambed i ddatblygu cyrsiau mewn meysydd yn gysylltiedig â lleddfu ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys ym meysydd amaethyddiaeth, garddwriaeth, ynni ac adeiladwaith.
  6. Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru CWIC mewn cydweithrediad â Woodknowledge Wales i ddarparu adnoddau ac ymchwil i hyrwyddo dulliau adeiladu modern a chynaliadwy gyda’r nod o ddatgarboneiddio’r diwydiant adeiladu yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Mae Canolfan Tir Glas yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i ailddiffinio arlwy’r Brifysgol yn Llambed i gyflwyno buddion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol i ganolbarth a de-orllewin Cymru.  Nod y Brifysgol a’n partneriaid yw creu cyfleoedd a fydd yn uwchsgilio ac yn ailsgilio gweithlu’r ardal, yn creu swyddi ac yn denu buddsoddiad pellach yn y dref a’r cyffiniau.   Wrth wneud hyn, y nod yw creu cymunedau cydnerth er mwyn i bobl a lleoedd allu ffynnu am genedlaethau i ddod”.

Mae gwybodaeth bellach am Ganolfan Tir Glas ar gael ar y wefan https://www.uwtsd.ac.uk/cy/tir-glas/