Neges gan Heiddwen Tomos,
“Dŵr dwfwn ar y ffordd – Cwmann i Lanbed o Bencarreg. Osgowch. Ceir ddim yn gallu mynd trwyddo.”
Gweithwyr Gwasanaethau Coed Llanbed a National Grid wedi cael diwrnod prysur iawn heddiw, a nawr yn clyrio’r hewl ger Ysgol Carreg Hirfaen.
Mae holl oedfaon Eglwysi Bedyddwyr Gogledd Teifi wedi eu gohirio yfory oherwydd y tywydd.
Coeden arall yn rhwystro’r ffordd yng Nghwmann. Newydd ddymchwel.
Bu rhannau o Lanybydder heb drydan heddiw.
Hewl ar gau rhwng Gorsgoch a Chribyn ger Pantyffynnon.
Archfarchnad Co-op Llanbed wedi cau gan osod y system atal llifogydd yn ei le.
Coeden anferth wedi cwympo yng Nghwmann gan gau’r hewl ger Teifi Castle.
Fan wedi ei barcio yng nghanol dŵr ym Maes Parcio’r Co-op Llanbed.
Maes Parcio’r Co-op yn Llanbed.
Mae Cyngor Sir Gâr bore ’ma wedi bod yn gweithio i glirio 56 coeden sydd wedi syrthio yn y sir gan achosi tagfeydd traffig. Maent wedi datgan eu bod yn blaenoriaethu fyrdd A a B.
Mae’r ffyrdd canlynol ar gau oherwydd amodau anniogel:
C3236 Llandowror
C2043 Cynwyl i TevaughanHeol Bolahaul, Caerfyrddin
Mae Ffordd Gyswllt Cross Hands yn agored i lôn sengl oherwydd coeden fawr sy’n achosi rhwystr. Mae criwiau yn ymwybodol ac yn delio â hyn.
Mae’r awdurdodau yn annog trigolion i’w hysbysebu am unrhyw goed sydd wedi gwympo ar yr heolydd.