Neges gan Heiddwen Tomos,
“Dŵr dwfwn ar y ffordd – Cwmann i Lanbed o Bencarreg. Osgowch. Ceir ddim yn gallu mynd trwyddo.”
Dŵr ar y ffordd yng Nghwmann ger pont Brynmeddyg dal i rwystro ceir bore ma.
Newyddion da! Cyflenwad trydan wedi dychwelyd erbyn 11:15yh i adeiladau yn ardal Llanbed ar ôl i Storm Darragh adael 1,156 o adeiladau heb drydan am gyfnod toc ar ôl 10:15yh nos Sadwrn.
Yn dilyn hyrddiadau o hyd at 100 milltir yr awr dros y 24 awr ddiwethaf, wrth fynd mewn i ddydd Sul, mae disgwyl i Storm Darragh daweli gyda’r gwyntoedd yn gostegu a llai o law. Serch hynny, mae rhybudd melyn o wynt yn parhau mewn grym ar draws rhan helaeth y Deyrnas Unedig tan 6yb fore Sul.
Bore ’ma yn unig, daeth Storm Darragh â hyd at 8mm o law yr awr i’r ardal gan achosi llifogydd. Mae rhagolygon yn dangos y bydd ’fory yn ddiwrnod sych gyda hyrddiadau o hyd at 15 milltir yr awr yn bosib – llawer tawelach na’r tywydd a brofwyd dros y 24 awr ddiwethaf yng nghanol Storm Darragh.
Dim trydan i 1,156 o adeiladau yn Llanbed.
Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi toc ar ôl 10:15yh heno bod problemau gyda chyflenwad trydan yr ardal gyda nifer yn profi toriadau i’w cyflenwad. Maent yn gobeithio y bydd y pwer yn dychwelyd erbyn 12yp ddydd Sul.
Yn y cyfamser, anogir unrhywun sydd angen cymorth i gysylltu â’r Heddlu ar 101 neu’r Grid Cenedlaethol ar 0800 0963080.
Gwasanaethau yn parhau i hael eu heffeithio yfory,
“Bydd Canolfan Lles a Pwll Nofio Llambed yn parhau ar gau ‘fory (dydd Sul) ar gyfer diogelwch staff a defnyddywr. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra. Cadwch yn saff!”
Mae’n mynd i fod yn wythnos fawr yn Ysgol Bro Pedr gyda sioe Addams Family, a gwnaed cyhoeddiad prynhawn ma ynglyn â’r ymarfer yfory,
“Rydym wedi penderfynu dileu ymarfer bore fory tan 12.30. Mi fyddwn yn asesu sefyllfa’r tywydd eto yn y bore”.
Ni chynhelir Ffair Nadolig yn Neuadd Gorsgoch yfory. Daeth cyhoeddiad gan swyddogion y neuadd brynhawn ma,
“Mae’r Ffair Nadolig wedi ei chanslo yfory.
Mae’r ffyrdd i mewn i Gorsgoch yn ddrwg a does dim trydan yn y neuadd a ddim yn debygol o fod yn ôl tan brynhawn yfory.
Ymddiheuriadau i bawb.”
Y Teifi wedi gorlifo ei glannau gyda cheffyl mewn dŵr yng Nghwmann a defaid yn cilio o’r dŵr yn Llanbed.
Gweithwyr Gwasanaethau Coed Llanbed a National Grid wedi cael diwrnod prysur iawn heddiw, a nawr yn clyrio’r hewl ger Ysgol Carreg Hirfaen.
Mae holl oedfaon Eglwysi Bedyddwyr Gogledd Teifi wedi eu gohirio yfory oherwydd y tywydd.