Eisteddfod Capel y Groes 2024

Un o unig eisteddfodau bach yr ardal yn ôl am flwyddyn arall

gan Luned Mair

Wedi llwyddiant eisteddfod ‘llynedd, mae Eisteddfod Capel y Groes yn ôl!

Bydd yn cael ei chynnal ddydd Mercher, Ebrill y 3ydd yng Nghapel y Groes, ger Llanwnnen. R’yn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i’r capel ar gyfer gwledd o ganu, llefaru, celf a llên i ddechrau am 1:30 y.p. Bydd uchafbwynt yr eisteddfod, sef seremoni’r cadeirio i’r rheiny o dan 21 yn cael ei chynnal tua 7:30 y.h.

Y beirniad cerdd eleni yw Meinir Richards, Llanddarog ac Ann Davies, Mynachlog-Ddu bydd yn beirniadu’r llefaru. Yn ar adran waith cartref, Delor James, Alltyblaca yw’r beirniad llên ac Aerwen Griffiths, Llanfair Clydogau yw’r beirniad celf. Enfys Llwyd, Talgarreg fydd llywydd y dydd.

Mae croeso cynnes iawn i bawb i ymuno gyda ni i gystadlu, cefnogi neu i joio’r bwyd ffein yn y festri! Ewch i dudalen Facebook Capel y Groes am fwy o wybodaeth.