Dyma apêl garedig at enillwyr 2023 i ddychwelyd y cwpanau, y tariannau a’r tlysau sialens os gwelwch yn dda. Gofynnir i chi eu dychwelyd i’r Cadeirydd a’r Prif Stiward Llwyfan, Emlyn Davies, Delfryn, 43 Bro Einion, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin SA40 9RT erbyn ddydd Gwener 16eg Awst. Pe byddech am wneud trefniadau eraill i’w dychwelyd mewn da bryd gogyfer Eisteddfod 2024, gellir ei ffonio ar 01570 480318.
Mae rhai o’r tlysau eisoes wedi eu dychwelyd a’r tîm o wirfoddolwyr yn eu cael yn barod ar gyfer yr Eisteddfod. Y mae’r Eisteddfod yn ffodus iawn o’r gwirfoddolwyr gweithgar sy’n ei threfnu a’i chynnal yn flynyddol. Os hoffech gynorthwyo’r Eisteddfod megis trwy fod yn stiward, byddai’r swyddogion yn falch iawn o glywed gennych. Cewch y manylion cyswllt yn Rhaglen yr Eisteddfod.
Fe’i cynhelir Penwythnos Gŵyl Banc Awst (23ain hyd 26ain) yn Ysgol Bro Pedr (Neuadd yr Ysgol Uwchradd). Cynhelir Talwrn y Beirdd a’r Babell Lên nos Wener 23ain yng Nghlwb Rygbi Llanbed. Cynhelir yr Oedfa fore Sul 25ain yng Nghapel Brondeifi.
Cewch copïau o’r Rhaglen yn siopau a busnesau tref ac ardal Llanbed. Gellir cael mynediad at gopi electronig o’r Rhaglen yn yr erthygl a gyhoeddwyd gan Delyth Morgans Phillips ar wefan Clonc360:
https://clonc.360.cymru/2024/rhaglen-eisteddfod-fawr-llanbed/
Edrychwn ymlaen at eich croesawu gan ddymuno’n dda i’r holl gystadleuwyr yn yr Eisteddfod.