Heddiw mae elusen Help for Heroes wedi diolch i aelodau Eglwys Fethodistaidd St Thomas, Llanbed a gyflwynodd siec am £718.34 i gefnogi ei gwaith. Cynhaliodd pwyllgor yr eglwys fore coffi, a fynychwyd hefyd gan nifer o gyn-filwyr lleol.
Dywedodd Helen Neve, Cynghorydd Clinigol Cyn-filwyr ar gyfer Help for Heroes,
“Rydym mor ddiolchgar am haelioni pobl leol a ddaeth draw i roi eu cefnogaeth. Mae gennym dîm gweithgar iawn ledled Cymru, ac rydym yn cefnogi tua 966 o gyn-filwyr ledled y wlad. Rydym yn dibynnu ar haelioni’r cyhoedd i barhau â’n gwaith.”
Ychwanegodd Helen,
“Roedd hi’n hyfryd siarad ag aelodau pwyllgor yr eglwys, yn ogystal â rhai o’r cyn-filwyr yn y gymuned leol.”
Mae Help for Heroes yn hyrwyddo cymuned y Lluoedd Arfog ac yn eu helpu i fyw’n dda ar ôl gwasanaethu, fel eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u cydnabod. Mae’r elusen yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu cyn-filwyr, gan eu cefnogi i oresgyn heriau corfforol, iechyd meddwl a lles.
Mae’r elusen wedi gweld cynnydd o 13% yn nifer y bobl sy’n cysylltu am gefnogaeth.