Enillydd Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc

Ifan yn ennill yn Seremoni Gwobrau Llanbed heno

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_2494
IMG_2500

Enillwyr y Gwobrau.

Ifan Meredith yn ennill Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc yn Seremoni Gwobrau Llanbed yn y Llew Du heno.

Mae Ifan yn ohebydd gweithgar gyda Clonc360 yn ogystal a gwirfoddoli gyda chymdeithasau eraill a digwyddiadau lleol.

Dyma un wobr ymhlith deg ohonyn nhw mewn seremoni hyfryd, y cyntaf o’i math a gynhaliwyd heno gan Gyngor Tref Llanbed. Pwrpas y noson oedd gwobrwyo pobl sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth yn Llanbed gan wneud y dref yn le mor arbennig.

Yr enillwyr eraill oedd:

Gwobr Goffa Hag Harris – Casi Gregson a Sioned Allen

Gwobr Creadigol – Kees Huysmans

Gwobr yr Iaith Gymraeg – Dorian a Rhian Jones

Gwobr Athrawon / Hyfforddwyr – Lowri Gregson

Gwobr Amgylcheddol – Ru Hartwell

Gwobr Gwirfoddoli – Ieuan Jones

Gwobr Busnes – Laura Hunter

Gwobr Arwr Lleol – Ethan Rees

Gwobr Chwaraeon – Dion Regan

Gwobr Cymunedol – Dorothy, Julian a Llinos

Croeswyd pawb i’r seremoni gan Faer y Dref Gabrielle Davies a’r Dirprwy Faer Helen Thomas.  Cyflwynydd y noson oedd Elliw Dafydd.  Darparwyd adloniant swynol ar ddechrau’r noson gan y delynores Cerys Jones.

Y noddwyr oedd: ADVE, Llew Du, Cadi & Grace, CAVO, Gwesty’r Castle, Creative Cove, Tacsis Fastline, Carpedi Gwyn Lewis, Hunters Hair Lounge, LAS, Mesur, Morgan & Davies, Alec Page, PJE, Radical Moves, D Arnold Davies a’i fab, Canolfan Arddio Robert, Royal Oak, Safari Drive, Teifi Forge, Barbwr Trim Inn, Watson & Pratts, West Wales Letting, J&E Woodworks ac Yr Hedyn Mwstard.

Dweud eich dweud