Ennill yn yr Ŵyl Ban Geltaidd

Carys Griffiths-Jonrs a Sara Davies yn dod i’r brig yn Iwerddon

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
275456A5-B6FE-453A-93D3

Carys Griffiths-Jones yn ennill yr unawd gwerin yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

3AA5FE21-E11E-46EA-8292

Sara Davies yn cpio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Llongyfarchiadau i ddwy gantores leol am ddod i’r brig mewn dwy gystadleuaeth wahanol yn yr 50fed Gŵyl Ban Geltaidd yr wythnos hon.

Enillodd Carys Griffiths-Jones o Gwrtnewydd yr unawd gwerin nos Fercher yn Carlow, Iwerddon. Canodd Carys ddwy gân sef “Twll bach y clo” a “Beth yw’r haf i mi”.

Roedd hyd at dri chystadleuydd o bob gwlad Geltaidd yn cael cystadlu ac roedd rhaid cael eich derbyn i gystadlu. Roedd cantorion o Iwerddon, Alban, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw yn cystadlu a phanel o feirniaid o’r gwledydd hynny gan gynnwys Gwenan Gibbard o Gymru.

Yn y llun, mae Carys yn derbyn tlws a gwobr ariannol gan y Parchedig Carys Ann o ardal Crymych sef llywydd yr Ŵyl.  Roedd Carys yn cystadlu gyda Chantorion Ger y Lli hefyd.

Dywedodd Carys,

“3 o bob gwlad oedd ag hawl i gystadlu trwy ennill lle/gwahoddiad i gymryd rhan.  O Gymru roedd Efan Williams o Ledrod, Branwen Medi Jones a ddaeth yn 3ydd, a finne a enillodd y wobr gyntaf.  Profiad arbennig a dathliad gwerth ei weld.”

Ar nos Iau wedyn cipiodd Sara Davies, arweinydd Côr Pamlai y wobr am y Gân Ryngwladol Orau, wedi iddi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru nôl ar ddechrau mis Mawrth. gyda’i chân ‘Ti’.

Dywedodd Hywel Roderick, cadeirydd Côr Pamlai,

“Rydym fel aelodau o’r côr yn ymfalchio yn fawr iawn yn ei llwyddiant ysgubol yn ddiweddar – ac rydym yn sicr mai ond dechreuad yw hwn i yrfa lewyrchus iawn ar y llwyfannu mawr. Llongyfarchiadau mawr iawn.”

Roedd Sara, fel Carys, yn cystadlu yn erbyn cynrychiolwyr o’r chwe gwlad Geltaidd.  Enillodd Gwpan yr Ŵyl Ban Geltaidd yn ogystal â gwobr ariannol o €1,500.