Mae system ddatganoledig wedi bod ar waith yng Nghymru am ychydig dros 25 o flynyddoedd gan olygu bod nifer o sectorau a phwerau wedi eu datganoli o San Steffan i Senedd Cymru ym Mae Caerdydd. Ond, mae lefelau gwario trwy gydol gwledydd Prydain yn cael eu penderfynu gan San Steffan sy’n cynnwys Cymru a olyga fod gwariant yn Lloegr yn cael effaith ar faint o arian sy’n dod i Gymru.
Mae hyn yn hynod o bwysig wrth ystyried y polisïau sy’n cael eu trafod gan yr holl bleidiau gwahanol gan mai Etholiad Cyffredinol ar gyfer San Steffan a chaiff ei chynnal ar y 4ydd o Orffennaf. Golyga hyn nad yw rhai o’r polisïau mae’r pleidiau yn eu cyhoeddi yn berthnasol i Gymru.
Beth sydd wedi ei ddatganoli?
- Addysg,
- Iechyd,
- Trafnidiaeth Gyhoeddus,
- Llywodraeth Leol,
- Amgylchedd a chynllunio,
- amddiffynfeydd dŵr,
- Tai a datblygiad Economaidd,
- Twristiaeth, Chwaraeon a diwylliant,
- gwasanaethau brys Tân
- Amaethyddiaeth,
- coedwigaeth,
- pysgod-fannau,
- yr iaith Gymraeg,
- arwyddion ffordd a chyfyngau cyflymdra,
- trethi tirlenwi,
- ychydig o drethi incwm.
Beth sydd ar gadw i San Steffan (heb ei ddatganoli)?
- Amddiffyn a diogelwch cenedlaethol,
- mewnfudo,
- materion tramor,
- gwasanaethau ariannol
- rheoleiddio pensiynau,
- masnach ryngwladol,
- datblygiad rhyngwladol,
- Isafswm Cyflog Gwladol,
- telegyfathrebu (telecommunications),
- darlledu,
- eiddo deallusol,
- deddfu cyflogadwyedd,
- rheilffordd traws-ffiniol,
- ynni,
- cyfiawnder a heddluoedd,
- erthylu,
- gwasanaeth bostio,
- deddfau elusennau,
- diogelwch cymdeithasol.
Felly, dyma’r holl bwerau sydd wedi eu nodi ac yn ble ond, sut caiff hyn effaith ar bolisïau’r Etholiad Cyffredinol?
Democratiaid Rhyddfrydol
Mae pwyntiau maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnwys cynyddu’r isafswm cyflog 20% ar gyfer gweithwyr ar gontract ‘sero-awr’. Mae hyn yn fater gwasanaeth ariannol ac felly wedi ei gadw i Senedd San Steffan ac yn berthnasol i Gymru. Dan yr un adran, maent am ‘gywiro system Taliadau Salwch’ wrth ei wneud ar gael ar gyfer miliwn o weithwyr sy’n ennill llai na £123 yr wythnos.
Mae bwriad y blaid i ganiatáu i bobl ifanc oed 16 a 17 i bleidleisio yn fater etholiadol ac er bod oed pleidleisio etholiadau Awdurdodau Lleol a Senedd yng Nghymru yn 16, bydd hyn yn newid y system ar gyfer etholiadau i Etholiadau Senedd San Steffan gan hefyd waredu’r angen am ID wrth bleidleisio.
Amherthnasol i Gymru:
- Hawl i bawb weld Doctor o fewn saith niwrnod wrth gyflogi 8,000 o ddoctoriaid a chreu system fwcio 24/7.
- Cynyddu gwariant y pen i ddisgyblion ysgol a choleg uwchlaw chwyddiant blynyddol.
- Diwygio bwrdd arolygu Ofsted sy’n gweithredu yn Lloegr yn unig.
Ceidwadwyr
Ar y llaw arall, mae addewid y Ceidwadwyr i gyflwyno Gwasanaeth Gwladol i bobl ifanc 18 oed, yn berthnasol i’r DU cyfan, fel mae cyflogi 8,000 o heddweision gan fod Heddlu a Chyfiawnder heb ei ddatganoli yng Nghymru.
Mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn diddymu deddf 20mya Llywodraeth Cymru ac yn diddymu’r cynlluniau i ehangu ar nifer o aelodau Senedd Cymru. Er mwyn gwneud hyn, byddai angen iddynt wyrdroi ychydig o bwerau Deddf Cymru 1998 a 2017 sydd yn nodi pwerau Llywodraeth Cymru.
Amherthnasol i Gymru:
- Cyflogi 92,000 yn fwy o nyrsys a 28,000 o ddoctoriaid.
- Gwaredu ‘Treth Stamp’.
- Gwahardd defnydd ffonau symudol mewn ysgolion.
Y Blaid Werdd
Ym maniffesto’r Blaid Werdd, maent yn galw am gyflwyno treth cyfoeth o 1% i eiddo dros £10miliwn a 2% i biliwnwyr. Mae hyn yn rhan o adran gwasanaethau ariannol ac felly ar gadw i San Steffan, gan olygu ei fod yn berthnasol i Gymru.
Mae egni ar gadw hefyd felly mae galwad y blaid i gynhyrchu 70% o drydan y DU gan wynt erbyn 2030 sy’n golygu ei fod yn berthnasol i Gymru. Yn yr un modd, mae’r Gwyrddion yn galw am ddatganoli teg i Gymru i gyd-fynd â datganoli yn yr Alban a fyddai’n effeithio’n fawr ar Gymru gan ychwanegu pwerau datganoledig i fae Caerdydd. Cyhoeddiad sylweddol arall gan y Gwyrddion yn ei maniffesto yw y byddai’r blaid Werdd yn gefnogol o refferendwm annibyniaeth.
Amherthnasol i Gymru:
- Prydau ysgol am ddim a chlybiau brecwast i bob plentyn hyd at flwyddyn 6.
- Adeiladu 150,000 o dai cymdeithasol.
Plaid Cymru
Dim ond am seddi yng Nghymru mae Plaid Cymru yn ymgeisio amdanynt felly, mae rhan fwyaf o’u pwyntiau yn y maniffesto yn berthnasol i Gymru ond le byddan nhw’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau gwahanol, yng Nghaerdydd neu San Steffan?
Galwa Plaid Cymru am ddatganoli’r system gyfiawnder a throseddau i Gymru a olyga felly byddai angen cefnogaeth Senedd San Steffan i weithredu hyn. Yn yr un modd, maent yn awyddus i weld darlledu yn cael ei ddatganoli felly byddai hyn yn fater i Senedd San Steffan i gymeradwyo.
Mae Plaid Cymru yn credu dylai Gymru gael buddsoddiad teg o brosiectau yn Lloegr sy’n fater byddai Llywodraeth y DU yn Llundain yn gorfod cytuno i roi’r arian yma i Gymru.
Ond, mae Plaid Cymru am weld 8.7% o wariant y GIG yng Nghymru yn cael ei wario ar Ddoctoriaid i gyflogi 500 yn rhagor. Dyma fater iechyd sydd wedi ei ddatganoli felly byddai angen i’r blaid ddylanwadu ar benderfyniad o’r fath yn Senedd Cymru.
Llafur
Dan gynlluniau Llafur, byddent yn sefydlu cwmni ‘Great British Energy’ gan wladoli cynhyrchiant egni adnewyddadwy. Gan fod egni wedi ei gadw i San Steffan, byddai’r newid yma yn effeithio ar Gymru. Hefyd, mae addewid Llafur i sicrhau mwy o Heddweision mewn cymunedau yn berthnasol i Gymru gan ei fod yn fater sydd wedi ei gadw yn San Steffan.
Amherthnasol i Gymru:
- Sicrhau 40,000 yn fwy o apwyntiadau’r wythnos.
- Cyflogi 6,500 o athrawon newydd.
Mae’n werth nodi bod Llafur yn pwysleisio fod gwariant yn y maniffesto yn mynd i gael ei ddyrannu hefyd i bolisïau yn y meysydd datganoledig i Lywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai Llafur hefyd yn sefydlu Cyngor y Cenhedloedd a Rhanbarthau i ddod ynghyd â Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle fydd Cymru yn cael ei chynnwys ac felly byddai penderfyniadau yn effeithio ar Gymru.