Bu farw’r Parchedig Goronwy Evans, Llanbed

Colled enfawr wedi marwolaeth ein bugail bro

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae cymuned Llanbed a’r cyffiniau wedi tristau’n fawr bore ma o glywed am farwolaeth y Parchedig Goronwy Evans, Llanbed neithiwr.

Bu farw yn Ysbyty Glangwili neithiwr yn 82 oed.  Ef oedd y gweinidog a fu’n gwasanaethu gyda’r Undodiaid hiraf yng Nghapel Brondeifi ac roedd yn ymwneud gyda chymaint o gymdeithasau ac elusennau’r ardal.

Roedd yn fwy na gweinidog yr Undodiaid, yn wir, ef oedd ein gweinidog bro a oedd yn barod iawn ei gymwynas ar bob achlysur.

Roedd hefyd yn awdur, darlledwr a threfnydd digwyddiadau.  Dyma gyfweliad fideo arbennig ag ef pan enillodd yr MBE.

Cydymdeimlwn yn ddwys â Beti ei wraig, Ioan Wyn a Rhidian y meibion a’u teuluoedd annwyl.