Ffordd ar gau : A482 rhwng Llanbed a Ciliau Aeron

Cyhoeddi fod heol yr A482 ynghau bore ‘ma rhwng Llanbed a Ciliau Aeron.

gan Ifan Meredith

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys toc ar ôl 9yb fod heol yr A482 rhwng Llanbed a Ciliau Aeron ynghau yn dilyn damwain.

Yn ôl adroddiadau, mae’r ddamwain wedi digwydd ym Mhont Creuddyn

“Osgowch yr ardal”

Dywed Heddlu Dyfed Powys wrth deithwyr i osgoi’r ardal a defnyddio ffyrdd eraill i deithio

Dweud eich dweud