Ffordd ar gau : heol Llanbed i Langybi

Cau heol yr A485 rhwng Llanbed a Llangybi achos gwrthdrawiad.

gan Ifan Meredith
Yr hofrennydd ar gae Coedparc. Llun gan Iwan Uridge.

Yr hofrennydd ar gae Coedparc. Llun gan Iwan Uridge.

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys toc ar ôl 4:25yp fod heol yr A485 rhwng Llanbed a Llangybi ynghau yn dilyn damwain.

Mae’r ddamwain wedi digwydd ger fferm Coed-Parc ar heol yr A485.

“Osgowch yr ardal”

Dywed Heddlu Dyfed Powys wrth deithwyr i osgoi’r ardal a defnyddio ffyrdd eraill i deithio.

Esboniodd Ysgol Bro Pedr y byddai bws YL03 yn methu cyrraedd y lleoliadau ac felly yn gofyn i rieni “gasglu’r plant o’r ysgol”.

Roedd Ambiwlans Awyr Cymru yn bresennol a beic modur a cherbyd pick-up yn rhan o’r ddamwain a ddigwyddodd tua 3 o’r gloch.  Mae’n debygol y bydd y ffordd ar gau am rai oriau.