Galw da am wartheg ym mis Ionawr

Adroddiad arwerthiant Llanybydder

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Roedd niferoedd da ym mart Llanybydder ym mis Ionawr. Dydd Sadwrn gwelwyd 300 o wartheg yn y mart gyda galw uchel am wartheg. Jenkins, Tanfforddgoy a Jenkins, Brohedydd gafodd y prisiau uchaf am eidionnau sef £1930. Y pris uchaf am anner oedd £1880 o eiddo Jenkins, Tanfforddgoy. Y pris uchaf am fuwch oedd £1840 o eiddo Jones, Rhydyfallen. Y pris uchaf am fuwch a llo oedd £1420 o eiddo Davies a Jones, Penralltafan.

Bydd yr arwerthiant nesaf ar y 10fed o Chwefror. Hoffai Evans Bros ddiolch i’r holl brynwyr a gwerthwyr yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau diwrnodau llwyddiannus yn y farchnad.