312 o gartrefi heb drydan yn ardal Silian, Betws Bledrws a Llangybi

Problem foltedd uchel yn achosi toriadau trydan yn yr ardal

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
54916D1A-9231-49EF-B1C2-7E73F52067FF

Yn gynnar brynhawn ddoe, diffoddodd y cyflenwad trydan yn ardaloedd Silian, Betws Bledrws a Llangybi a effeithiodd ar rhwng 300 ac 800 o gartrefi.  Hysbyswyd y National Grid am 3.15 o’r gloch.

Yn ôl adroddiadau gan rai cwsmeriaid a gysylltodd â’r National Grid, problem foltedd uchel oedd hyn a’r rheswm dros y ffaith bod y trydan yn mynd a dod oedd bod peiriannwyr yn ceisio dargyfeirio trydan i’r ardal.

Cafwyd addewid gan y National Grid yn y lle cyntaf y byddai’r trydan nôl erbyn 5 o’r gloch.  Ond ymddengys fod y broblem yn waeth nag y rhagdybiwyd.  Cafwyd ail addewid y byddai’r trydan wedi ei adfer erbyn 8 o’r gloch ac yna erbyn 11 o’r gloch.

Bu colli cyflenwad trydan yn drafferth i lawer yn yr ardal yn enwedig i ffermwyr.  Clywyd y bu’n rhaid i sawl fferm ddefnyddio generaduron i redeg peiriannau godro.

Dywedodd y cynghorydd Eryl Evans,

“Ddim yn siwr be yw’r broblem ond maent yn gweithio’n galed i’w datrys.”