Gorfoledd wrth i Fro Pedr gyrraedd y Principality

Ysgol Bro Pedr yn trechu Ysgol Bro Preseli i gyrraedd y rownd derfynol.

gan Ifan Meredith
IMG_6853

PMae tîm rygbi ieuenctid Ysgol Bro Pedr wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Plât dan 18 Ysgolion Uwchradd Cymru.

Mi fydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher, yr 20fed o Fawrth yn Stadiwm y Principality. Y gwrthwynebwyr fydd ysgol arall o Geredigion, Ysgol Bro Teifi.

Daw hyn yn dilyn buddugoliaeth i dîm Bro Pedr mewn gêm dyngedfennol yn erbyn Ysgol Bro Preseli ar gae chwarae Clwb Rygbi Llanbed ddydd Mercher. Y sgôr terfynol oedd 47-14 i Fro Pedr.

Mewn cyfweliad â Clonc360, soniodd Capten y tîm Steffan Evans ei bod yn fraint i gael cynrychioli’r ysgol yn y Principality ymhen pythefnos.

IMG_6847

Mi fydd Ysgol Bro Pedr yn teithio i’r Principality am yr ail flwyddyn yn olynol yn dilyn llwyddiant tîm merched blwyddyn 7 llynedd. Ar yr un diwrnod mi fydd bechgyn blwyddyn 7 yn chwarae yn rownd derfynol hoci i ysgolion Cymru yng Nghaerdydd.