Gwasanaeth bws newydd rhwng Llanybydder, Rhydcymerau, Llansawel, Cwmann, Llanbed a Phencarreg

Bws Bach y Wlad yn mynd i’r afael â bylchau trafnidiaeth lleol bob dydd Iau

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi eu bod yn lansio Bws Bach y Wlad, menter newydd sydd â’r nod o wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ledled y rhanbarth.

“Rydym yn ymateb ar ôl i’r gwasanaeth Bwcabus ddod i ben oherwydd diffyg cyllid gan y llywodraeth, gan adael bwlch yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin o ran gwasanaethau trafnidiaeth.”

Bydd Bws Bach y Wlad, sy’n mynd o bentref i bentref, yn cynorthwyo preswylwyr drwy roi mwy o gyfleoedd iddynt ar gyfer teithio cyfleus a fforddiadwy. Gan weithredu fel cynllun peilot am 9 mis, pum niwrnod yr wythnos, bydd y gwasanaeth yn cynnig teithio rhatach am ddim a chyfraddau gostyngol i bobl ifanc, gan ei wneud yn fwy hygyrch i ystod ehangach o aelodau’r gymuned.

Gan ganolbwyntio i ddechrau ar ardaloedd cyfagos Llanybydder a Chastellnewydd Emlyn, fel y nodwyd yn adroddiad ‘Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen’ y Cyngor, nod y prosiect yw cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth ehangach ‘Hwb Bach y Wlad‘ Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r Cyngor yn cydnabod lleihad yn y gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod gan breswylwyr opsiynau trafnidiaeth dibynadwy a chyfleus.

Ar ddydd Iau bydd gwasanaeth Bws Bach y Wlad yn yr ardal hon. Gwelir amserlen ar wefan Cyngor Sir Gâr.

Bydd y bws yn aros yn Rhiw San Pedr, Heol y Gaer a Chwm Aur yn Llanybydder; gyferbyn â’r Capel yn Rhydcymerau; gyferbyn â’r Angel yn Llansawel; Canolfan Cymuned a Dyffryn Annell Crug-y-bar; Gwesty Dolaucothi a’r Ganolfan Ymwelwyr Pumsaint; Lloches Ffarmers; Cofeb Ffald-y-brenin; Tafarn y Ram, Cwmann; Llew Du a Nat West Llanbed a Glen View a Heol y Maes Pencarreg.

Sicrhaodd y prosiect gyllid hanfodol y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan arddangos ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i fynd i’r afael â heriau trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig.

Prif nod y fenter yw cysylltu preswylwyr gwledig â lleoliadau lle mae cyfleoedd economaidd yn bodoli, gan feithrin twf a datblygiad yn y rhanbarth. Bydd y gwasanaeth hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu preswylwyr lleol wrth gael mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, addysg, cyflogaeth a siopa.

Dywedodd y Cyng Denise Owen, Ward Llanybydder,

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau cyllid i gyflwyno’r gwasanaeth hwn. Bydd y gwasanaeth yn dechrau ar ddydd Iau 2il Mai 2024. Cefnogwch y gwasanaeth hwn os gwelwch yn dda.

Mae gwasanaeth Bws Bach y Wlad yn gam sylweddol tuag at wella cysylltedd gwledig, mynd i’r afael â bylchau trafnidiaeth, a hyrwyddo datblygiad economaidd yn yr ardal.”