Cyngor Sir Gar yn ehangu’r ystod o gymorth a chyngor sydd ar gael mewn cymunedau gwledig

Ymgynghorwyr Hwb y Cyngor yn cynnig cymorth wedi’i dargedu yn Llanybydder

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Clwb-Llanybydder

Clwb Rygbi Llanybydder fatsoma.com

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin newydd gyhoeddi y byddant yn ehangu’r ystod o gymorth a chyngor sydd ar gael mewn cymunedau gwledig ledled y sir drwy gyflwyno Hwb Bach y Wlad.

Bydd y model gwasanaeth cwsmeriaid newydd yn ei gwneud yn haws i drigolion mewn ardaloedd mwy gwledig gael mynediad at ystod o wasanaethau a ddarperir eisoes gan y Cyngor ar-lein, dros y ffôn ac yn nhair canolfan gwasanaeth cwsmeriaid (Hwb) y sir yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.

Bydd y gwasanaethau a ddarperir gan Hwb Bach y Wlad yn cynnwys y canlynol:

  • Cyngor ar gostau byw (helpu trigolion i ‘hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi’)
  • Cyngor ar wastraff ac ailgylchu
  • Materion defnyddwyr a busnes (ymwybyddiaeth o sgamiau, safonau masnach, a chyngor ar drwyddedu ac iechyd anifeiliaid)
  • Gweithio yn Sir Gaerfyrddin (swyddi gwag, cyngor ar newid gyrfa a chymorth hyfforddiant)
  • Tai yn Gyntaf – cyngor ar denantiaethau a materion tai

Gan fod costau byw yn rhoi pwysau ychwanegol ar lawer o aelwydydd ac unigolion, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi parhau i ehangu’r cymorth sydd ar gael i drigolion yn y canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid, yn ogystal â chyflwyno Mannau Croeso Cynnes drwy fisoedd y gaeaf. Mae Hwb Bach y Wlad yn ehangu’r cymorth hwn ymhellach fyth ac yn darparu cymorth a chyngor i bawb, gyda’r cymorth wedi’i deilwra i gefnogi amrywiaeth o amgylchiadau unigol.

Bydd Ymgynghorwyr Hwb y Cyngor yn cynnig cymorth wedi’i dargedu yng Nghydweli, Llandeilo, Llanymddyfri, Cross Hands, Cwmaman, Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Castellnewydd Emlyn a Llanybydder drwy amserlen reolaidd:

Cydweli – Dydd Llun (bob pythefnos) yng Nghanolfan y Dywysoges Gwenllian a dydd Mercher (bob pythefnos) yn CETMA

Llandeilo – Dydd Mawrth (bob pythefnos) yn y llyfrgell a dydd Iau (bob pythefnos) yn y Neuadd Ddinesig

Llanymddyfri – Dydd Mawrth (bob pythefnos) yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol

Cross Hands – ar ddydd Mercher (bob pythefnos) yn Neuadd y Tymbl ac ar ddydd Gwener (bob pythefnos o 6 Hydref) yng Nghlwb a Sefydliad y Gweithwyr

Cwmaman – Dydd Gwener (bob pythefnos) yn y ganolfan gymunedol

Talacharn – Dydd Mercher (bob pythefnos) yn y Neuadd Goffa

Castellnewydd Emlyn – Dydd Iau cyntaf a thrydydd dydd Iau y mis ym maes parcio’r mart a dydd Mercher (bob pythefnos) yn y neuadd gymunedol

Hendy-gwyn ar Daf – Dydd Mawrth (bob pythefnos) yn y Neuadd Goffa

Sanclêr – Dydd Mawrth (bob pythefnos) yn y ganolfan hamdden

Llanybydder – Ail ddydd Iau a dydd Iau olaf y mis (diwrnodau mart) yn y clwb rygbi

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig:

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein holl drigolion i gael y cymorth, y gefnogaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt, yn enwedig gan ein bod ni i gyd yn wynebu heriau o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau byw. Rydym am annog pawb i geisio cymorth os oes arnynt ei angen.

Bydd Hwb Bach y Wlad yn galluogi Ymgynghorwyr Hwb arbenigol i gynnig cymorth ariannol a llesiant i drigolion, gyda phecynnau cymorth wedi’u teilwra yn dibynnu ar amgylchiadau unigolion. Bydd ein Hymgynghorwyr Hwb yn darparu ystod o wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn ein canolfannau Hwb yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.

Ar ôl eu sefydlu, byddwn yn ceisio gweithio gyda sefydliadau partner i ehangu’r cymorth a ddarperir yn yr ardaloedd hyn.”

Mae Hwb Bach y Wlad yn rhan o flaenoriaethau Panel Ymgynghorol Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch Trechu Tlodi i atal tlodi, gwella bywydau pobl sy’n byw mewn tlodi a helpu pobl i gael gwaith.

Mae Hwb Bach y Wlad yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU sy’n rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.