Gwobrau yn y Sioe Fawr i Hufen Iâ Llaeth Llanfair

Teulu Llanfair Fach, Llanbed yn dod i’r brig yn Llanelwedd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
AAB63015-6380-4559-9A6F

Laura, Dafydd, Ifan a Beca gyda’u tystysgrifau yn y sioe prynhawn ma.

Llongyfarchiadau i deulu Llanfair Fach Llanbed ar y fenter diweddaraf sef cynhyrchu a gwerthu hufen iâ gan ddefnyddio llaeth ffres yn syth o’r ffarm.

Llongyfarchiadau hefyd ar ennill nifer o wobrau am hufen iâ yn y Sioe Fawr yr wythnos hon yn Llanelwedd.

  • 1af am flas Vanilla yn y categori Vanilla.
  • 1af yn categori New Exhibitor gyda blas Salted Caramel.
  • a Supreme Champion Ice Cream gyda’r un blas.

I’r rhai ohonoch chi a fu yng Ngŵyl Fai Cwmann, Rali Ceredigion a Sioe Llanbed eleni, cawsoch gyfle i brynu’r hufen iâ blasus.  Ond os ydych chi’n mynd i’r Sioe Fawr, gallwch flasu’r hufen iâ ar stondin Lloyds Dairy Centre tan ddydd Iau.