Cynhelir Gŵyl Flodau arbennig iawn yn yr eglwys hynafol o ddydd Gwener 17eg hyd dydd Sul 19eg Mai. Ymwelsom brynhawn Gwener a chawsom groeso hyfryd gan y Parchedigion Melanie Prince a Victoria Hackett ac aelodau Eglwysi Plwyf Llanbed sef Helen, Beryl, Debbie a Douglas. Y mae gwledd o liwiau hardd ac arogl hyfryd yn llenwi’r eglwys a’r bedyddfaen yn fôr o liwiau, yn goch tywyll, oren, pinc, gwyrdd a gwyn. Ceir tuswau o flodau yn addurno canllawiau’r corau hefyd, pob un ychydig yn wahanol ac yn cyfrannu at y darlun lliwgar.
Cofiwch sylwi ar yr addurniadau blodau sy’n harddu’r ffenestri. Mae pob un yn dilyn thema gwahanol. Sylwais ar un ffenestr yn cofio’r diwydiant cynhyrchu menyn; ffenestr arall yn tynnu sylw at fyd amaeth gyda ffon fugail a gwlân ynghanol y trefniant blodau. Sylwais mai’r gegin yw thema ffenestr arall gyda chyfrol ‘Mrs Beetons Book of Household Management’, llwyau pren a’r rholbren yn cael sylw. Byd y crydd yw thema ffenestr arall a’r morthwyl a’r einion â rhan amlwg yn yr arddangosfa. Y mae ardal yr Allor yn drawiadol a’r lliwiau yn cyfateb i’r gwydr glas a choch y ffenstri yno.
Mae Eglwys y Santes Fair tua 2 filltir o Lanbed ar hyd Ffordd Maestir. Cymerwch y cyfle i’w gweld – mae’r rhoddion ariannol yn mynd tuag at gynnal Eglwys y Santes Fair, Maestir.