Gŵyl Gerdded Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur 2024

Lansiad cyfrol ‘Pererin Ystrad Fflur’

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_1741

Rhai o’r cerddwyr wedi cyrraedd cerflun y Pererin

IMG_1671

Taith o gwmpas adfeilion Abaty Ystrad Fflur tan arweiniad David Austin

IMG_1690

Rhai o’r cerddwyr wedi cyrraedd copa Pen-y-bannau

IMG_1761

Lansiad y gyfrol ‘Pererin Ystrad Fflur’ gan David Austin a Dafydd Johnston

IMG_1681

Caradoc Jones yn Eglwys y Santes Fair

IMG_1679

David Austin yn dangos y gwaith archaeolegol

Cynhaliwyd Gŵyl Gerdded newydd sbon yn ardal Abaty Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid 28ain a’r 29ain Medi. Ei phwrpas oedd rhoi’r cyfle i gerddwyr ac ymwelwyr fwynhau’r dirwedd o gwmpas ardal yr Abaty a phrofi awyrgylch hudolus y lleoliad cysegredig hwn. Trefnwyd trwy gydweithrediad rhwng Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur a Grŵp Cymunedol Ystrad Fflur. Derbyniwyd cefnogaeth gan nifer o glybiau cerdded lleol yn cynnwys Cymdeithas y Cerddwyr, a’u haelodau yn arwain sawl un o’r teithiau cerdded. Prif gefnogwr ariannol yr ŵyl oedd Cronfa Henebion y Byd, elusen sy’n ymroddedig i gadw a gwarchod safleoedd treftadaeth a phensaernïaeth hanesyddol gan gydweithio i sicrhau hynny gyda chymunedau mewn dros 90 o wledydd. Mae’r bartneriaeth rhyngddynt ag Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn bodoli ers 2016 a dyma leoliad eu prosiect cyntaf yng Nghymru.

Trefnwyd cyfres o deithiau cerdded amrywiol yn addas i bob oedran ac i’r rhai mwyaf heini a’r rhai am deithiau mwy hamddenol. ’Roedd rhai’n addas i deuluoedd ac eraill i’r rhai mwy bregus ac yn defnyddio cadair olwyn. Trefnwyd teithiau byr a hawdd megis y daith ‘lonc a chlonc’ oddeutu milltir o gwmpas Caeadle’r Abaty tan arweiniad David Austin a Dafydd Johnston, y ddau’n byw yn Llanbed. Llynnoedd Teifi oedd pen y daith hiraf o dros 8 milltir tan arweiniad Jim Cowie, Kay Davies ac Ian Tilloston.

Fy newis o deithiau ar y dydd Sadwrn oedd:

– Taith oddeutu 5 milltir trwy goetir hynafol yr Abaty tuag at Rhos-gelli-gron, yr ardal o rostir i’r de o Ystrad Fflur a fu’n wreiddiol yn dir comin. Arweiniwyd y daith gan Peredur Evans, Dafydd Johnston a James Williams.

– Taith oddeutu milltir tan arweiniad David Austin a Dafydd Johnston o gwmpas Caeadle’r Abaty i ddeall ychwaneg am hanes crefyddol, hanesyddol ac archaeolegol y safle.

Fy nheithiau ar y Sul oedd:

– Taith oddeutu 3.5 milltir heibio olion hen weithfeydd plwm ger Bron-y-berllan i gopa Pen-y-bannau, bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn gyda golygfeydd godidog o’r copa i bob cyfeiriad. Arweinyddion y daith oedd Peredur Evans, Dafydd Johnston a James Williams.

– Pererindod at y Pererin sef cerflun trawiadol Glenn Morris o bren a dur sy’n sefyll yn urddasol ar fryn uwchben yr Abaty. Dyma’r ail Bererin ar y safle yn dilyn i’r cyntaf, hefyd gan yr artist Glenn Morris, ddymchwel yn 2019.

Nid y teithiau cerdded yn unig a drefnwyd yn rhan o’r ŵyl. Cynhaliwyd lansiad ar y prynhawn Sul o’r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres ‘Llyfrau Ystrad Fflur’ sy’n cyflwyno’r ymchwil cyfredol am hanes hir a chyfoethog Ystrad Fflur. Cyflwynwyd pumed gyfrol y gyfres, ‘Pererin Ystrad Fflur’, gan Olygyddion y gyfres, David Austin a Dafydd Johnston. Dyma gyfrol hynod ddifyr gan Glenn Morris, Simon Batty a David Austin yn olrhain hanes cerflun Pererin trawiadol Glenn Morris. Ceir lluniau lliwgar Simon Batty ac ysgrif wybodus a dadlennol David Austin yn olrhain hanes datblygiad Ystrad Fflur yn gyrchfan pererindod. Awduron penodau eraill y gyfrol yw Aled Lewis, Jim Cowie ac Ann Chapman-Daniel. Mwynheais ddarllen y gyfrol sy’n gyflwynedig er cof am y diweddar Charles Arch (1935-2024) fu’n byw ym Mynachlog Fawr ac yn gyfaill mawr i Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur. Cyhoeddwyd y gyfrol yn y Gymraeg ac yn y Saesneg a phedair cyfrol arall y gyfres yw: ‘Eglwys y Santes Fair’ (2021) gan David Austin, Gaenor Parry a Carys Aldous-Hughes; ‘Ystrad Fflur: Hanes a Thirwedd Mynachlog Gymreig’ (2022) gan David Austin; ‘Barddoniaeth Ystrad Fflur’ (2023) gan Dafydd Johnston; a ‘Bywyd mewn Mynachlog Sistersaidd Ganoloesol’ (2023) gan Janet Burton.

Gwahoddwyd hefyd yr anturiaethwr a’r mynyddwr Caradoc Jones i’r ŵyl a chefais fy nghyfareddu gan ei sgwrs ddifyr a dadlennol ar y nos Sadwrn. Dyma’r Cymro cyntaf i ddringo i gopa Mynydd Everest (adweinir hefyd yn Sagarmatha neu Qomolangma). Cyfeiriodd trwy gyfrwng cyfres o sleidiau at nifer o fynyddoedd ucha’r byd mae wedi eu dringo. Cyfeiriodd hefyd at ei waith yn arolygu rhai o’r pysgodfeydd sydd o gwmpas tiriogaethau Gwledydd Prydain megis Ynysfor Chagos sy’n cynnwys ynys Diego Garcia yng Ngefnfôr India.

Cefais gyfle hefyd i ymweld a mwynhau’r arddangosfa sy’n cyflwyno peth o hanes Mynachlog Fawr a Theulu Arch. Adeiladwyd y ffermdy rhestredig Gradd II* yn wreiddiol yn 1670-80 yn blas bonedd o weddillion ffreutur yr Abaty yn dilyn Diddymu’r Mynachlogydd tan orchymyn Brenin Lloegr, Harri VIII, yn 1539. Y mae’r adeiladau allanol sy’n cynnwys y Tŷ Pair a’r cartws, y stablau, yr ysgubor ar beudy hefyd yn rhestredig Gradd II ac yn rhan o’r cyfadeiladau sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth. Arddangosir nifer o eitemau hynafol yn ddreser, desg ysgrifennu, Cadair a Choron Eisteddfod a sawl offer amaethyddol. Cefais gyfle tan arweiniad David Austin i weld y gwaith cloddio diweddaraf ar y safle. Mae’r dystiolaeth yn dangos cymaint o hanes y safle sy’n dal yn guddiedig ac eto i’w darganfod gan yr archaeolegwyr a’r haneswyr yn Ystrad Fflur.

Cynhaliwyd hefyd Oedfa ‘Moliant y Pererinion’ tan arweiniad y Parch Aled Lewis yn Eglwys y Santes Fair ar y prynhawn Sul. Ei neges oedd ein bod yn bererinion ar daith bywyd a dylanwadau safleoedd sanctaidd megis Ystrad Fflur yn cyfoethogi ein teithiau. Daeth y darlleniadau o Salm 51 ac Effesiaid 5 a’r emynau oedd ‘Arglwydd Iesu, dysg im gerdded’ (Elfed) a ‘He who would valiant be ‘gainst all disaster’ (John Bunyan a Percy Dearmer). Er bod yr Abaty’n adfeilion, mae Eglwys y Santes Fair yn parhau i gynnal yr Achos yn Ystrad Fflur a cherdd arbennig y bardd lleol, Idris Reynolds, yn cyfleu hynny mor gelfydd:

‘Awn o byrth y sŵn di-baid – i oedi

ger y rhyd fendigaid;

yn yr hedd fe gawn o raid

annedd i buro’r enaid.

Yn gwfaint o atgofion – awn i’r lle

gerllaw yr adfeilion,

awn yn ôl i’r gyrchfan hon

yn un o’r pererinion.

Erw’r mynach a’r meini – yw’n gwaddol

a gwyddom fel plwyfi

mai yn nhirwedd y weddi

y mae nerth ein cymun ni.’

Mwynhawyd arddangosfa fechan yn yr eglwys a drefnwyd gan Gaenor Parry ac yn olrhain ychydig o hanesion difyr pererindodau crefyddol. Bu cyfle wedyn i gerdded o’r eglwys i fyny’r bryn i weld y Pererin a mwynhau’r golygfeydd o’r copa. Mae’r Pererin ar dir preifat gan ddiolch i Iwan a Natalie Arch am ganiatáu mynediad ar eu tir i gyrraedd y Pererin y prynhawn Sul hwnnw.

Daeth yr ŵyl i ben gyda lansiad ‘Pererin Ystrad Fflur’ gan David Austin a Dafydd Johnston, Golygyddion y gyfres, yn y Beudy a mwynhau paned a chacennau. Diweddglo hyfryd i benwythnos cofiadwy gan ddiolch yn fawr i bawb wnaeth drefnu a chynnal penwythnos mor arbennig yn Ystrad Fflur.

Dweud eich dweud