Canu gwefreiddiol yng Nghymanfa Ganu Côr Meibion Cwmann a’r cylch yn 60 oed

Corau lleol yn dod ynghyd i godi’r to yn Soar Llanbed

gan Dan ac Aerwen
24F33518-C795-41DC-AE11

@CorCwmann

8F91F798-C87C-42E1-98DE

Delyth Hopkins Evans. Llun gan Nia Wyn Davies.

8389614F-B5D0-4FC5-BCD7

Meirion Wynn Jones. Llun gan Nia Wyn Davies.

DC264693-C8F7-4F5C-98DD

Yr Hybarch Eileen Davies. Llun gan Nia Wyn Davies.

14D5FADB-2D23-4D4B-9942

Geraint Davies. Llun gan Nia Wyn Davies.

373A0857-8184-4155-BF92

Tim Boyle. Llun gan Nia Wyn Davies.

D9BACB58-7F9C-4B4B-B2AF

Bois y Gilfach

B70F51E5-E0F8-4F24-BC71

Côr Cardi-Gân.

Yn ôl yn 1964 daeth grŵp o fechgyn o Gwmann a’r ardal ynghyd o dan arweiniad Oliver Williams gyda’r bwriad o greu côr i baratoi i gymeryd rhan yn y gystadleuaeth Talentau Lleol yn 1925.  Dyma’r tro cyntaf i’r côr gystadlu. Nawr dyma ni yn 2024 ac yn dathlu 60 mlynedd.  Dechreuodd y dathlu nôl yn mis Mawrth gyda chyngerdd llwyddiannus iawn yn Neuadd Sant Iago. I ddilyn hynny cawsom ginio yn y Llew Du yn mis Ebrill ac yn awr ryn ni’n dod â’r cwbwl i ben gyda Chymanfa Fawreddog.

Bu pwyllgor y côr yn weithgar dros ben yn paratoi ar gyfer y noson arbennig hon. Yn yr wythnosau cyn yr achlysur danfonwyd gwahoddiadau i gorau’r cylch a phleserus iawn oedd gweld yr ymateb. Diolch iddynt i gyd am ddod i helpu i wneud y noson a’r canu mor gofiadwy.

Cychwynodd y noson gyda llywydd y côr, Bnr. Alun Williams yn croesawu pawb a chyhoeddi’r emyn cyntaf. Yna aeth ymlaen i groesawu llywydd y noson, yr Hybarch Eileen Davies a chyflwyno’r arweinydd, yr amryddawn Delyth Hopkins Evans a’r organydd, Meirion Wyn Jones.

Ar ôl canu brwdfrydig rhai o’r emynau, daeth Côr Cwmann ymlaen i berfformio’r gân Hafan Gobaith, cân maent wedi bod yn gweithio arni ers i Sharon Dafis ymuno a’r côr rai misoedd yn ôl.

Uchafbwynt arall y noson oedd anerchiad yr Hybarch Eileen a chafodd ei chyflwyno gan Geraint Davies, cadeirydd y côr. Roedd hi’n cyfaddef ar y cychwyn ei bod yn hoffi siarad. Cyflwynodd yr araith drwy banter ysgafn, a geiriau digri a wnaeth ddal sylw pawb. Yna mynd ymlaen i siarad am ddwyster y gwaith mae Tir Dewi yn cyflawni gyda chymaint o ffermwyr ac amaethurwyr sy’n dioddef o unigrwydd ac yn cael cefnogaeth gan yr elusen yma. Siaradodd am mor wahanol oedd bywyd ffermwyr yn 1964 pan oedd cyfle i siarad a chymdeithasu gyda’r cymdogion pan yn gweithio i helpu ei gilydd.

Yna ymlaen â’r canu bendigedig o dan arweiniad ysbrydioledig Delyth cyn i Kees ddod i’r pwlpid i gyflwyno Meirion Wyn Jones, ein organydd gwadd. Ond cyn dechrau ceisiodd, gyda thipyn o sbri, gofio enwau’r corau oedd wedi dod i ganu.  Aeth ymlaen i gyflwyno Meirion fel ffrind a chyfeilydd arbennig o dalentog oedd wedi gweithio gydag ef lawer gwaith.

Cyn i Meirion ddechrau ar ei ddatganiad, soniodd am y miwsig roedd yn mynd i chwarae a’r profiad hyfryd oedd i gael chwarae organ mor arbennig ag organ Soar. Pleaser mawr oedd gwrando arno gyda phawb wedi cael eu swyno.

I gloi’r noson o ganu gwefreiddiol drwy dalent Delyth fel ein harweinydd, daeth Tim Boyle ymlaen i wneud y diolchiadau a mynegi ei ddiolch i Delyth am wneud eithriad i gytuno i’n harwain er ei bod wedi ymddeol yn swyddogol gan obeithio y bydd sawl eithriad eto!!!  Diolchodd i’r Hybarch Eileen gan ofyn i bawb i fod yn arbennig o hael yn eu cyfraniadau.  Cyflwynwyd anrhegion o ddiolch i Delyth, Sharon, Elonwy, Meirion a’r Hybarch Eileen.

Diolch i Tim, hefyd fel siaradwr newydd am fynegi ei ddiolchiadau mor huawdl.

Rhaid diolch hefyd i Elonwy a Keri am yr holl waith o baratoi a threfnu rhaglen y noson ac i bawb a wnaeth weithio neu helpu mewn unrhyw ffordd tuag at lwyddiant dathlu 60 y côr.

Mae’n dda iawn gyda ni i allu cyhoeddi fod cyfraniadau noson y Gymanfa ychydig dros £2,000.

Gallwch wylio fideo o’r Gymanfa gyfan a ddarlledwyd yn fyw ar dudalen facebook y côr uchod.  Diolch i Dylan Lewis am ffilmio ar y noson.  Ceir clipiau fideo isod hefyd gan Hywel Roderick.

Dweud eich dweud