Cynhaliodd CAVO a’r Ganolfan Byd Gwaith tair Ffair Gwirfoddoli a Gwaith dros ledled Ceredigion yn ystod mis Hydref. Denodd y digwyddiadau, a gynhaliwyd yn Hwb Penparcau, Neuadd y Farchnad Aberteifi, a Neuadd Fictoria Llanbedr Pont Steffan, dros 150 o aelodau o’r gymuned a oedd yn awyddus i archwilio cyfleoedd gwirfoddoli, rhagolygon swyddi, a chyngor gyrfa.
Roedd y ffeiriau yn cynnwys nifer o stondinau yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ar ystod eang o rolau gwirfoddol, prosiectau ac agoriadau swyddi yn y rhanbarth. Darparodd Futureworks a Chymorth Cyflogadwyedd Ceredigion arweiniad arbenigol ar ddatblygu gyrfa a chynhaliodd DWP weithdy ar ddod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Bu’r ffeiriau’n llwyddiant mawr, gan feithrin cysylltiadau rhwng aelodau o’r gymuned, sefydliadau, a chyflogwyr ac oedd yn rhan hanfodol wrth gysylltu cymunedau Ceredigion.
Hoffai CAVO a’r Ganolfan Byd Gwaith estyn eu diolch diffuant i bawb a fynychodd ac a gymerodd ran. Edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau yn y dyfodol a pharhau i gefnogi’r gymuned.
I ddysgu mwy cysylltwch â:
- Gwirfoddoli: Cysylltwch â CAVO am ragor o wybodaeth am rolau gwirfoddoli yng Ngheredigion: E-bost: gen@cavo.org.uk Ffôn: 01570 423 232
- Swyddi: Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith am ragor o wybodaeth: Ffôn: 0800 169 0190 Ffôn testun: 0800 169 0314
Ariennir y prosiect yma gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, a gefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion.